10.8 Derbyniadau Cyd-destunol ac Amgylchiadau Arbennig

1. Defnyddir y term derbyniadau cyd-destunol i ddisgrifio gwybodaeth ychwanegol megis ble mae darpar fyfyriwr yn byw neu i ba ysgol y maent yn mynd, sy’n darparu cyd-destun ar gyfer asesu eu cyflawniad a’u potensial. Mae’r wybodaeth hon yn galluogi’r Brifysgol i ystyried yr amgylchiadau y mae perfformiad academaidd myfyriwr wedi’i gyflawni ynddynt, a allai arwain at wneud cynnig cyd-destunol (addasiad i’r cynnig safonol a roddir) ar gyfer y cwrs y gwnaed cais amdano.

2. Bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol i ymgeiswyr cymwys sy’n astudio Safon Uwch (gan gynnwys Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru) neu Fagloriaeth Ryngwladol yn y DU. Fel arfer, gwneir cynigion cyd-destunol ar bwynt isaf yr ystod cynnig cyhoeddedig ar gyfer y cwrs/cyrsiau y gwnaed cais amdanynt. Mae meini prawf cymhwysedd cynnig cyd-destunol ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am gyrsiau israddedig yng nghylch ymgeisio 2022/2023 fel a ganlyn:

  • Mae cod post eich cartref mewn cymdogaeth cyfranogiad Addysg Uwch isel (Cesglir yr wybodaeth hon o Gyfranogiad Ardaloedd Lleol (POLAR) a’i chyflenwi gan UCAS). Mae'r sgôr yn amrywio o 1 (cyfranogiad isel) i 5 (cyfranogiad uchel). Bydd y Brifysgol yn gwneud cynnig cyd-destunol i'r ymgeiswyr hynny o gwintelau POLAR4 1 a 2
  • Chi yw'r genhedlaeth gyntaf yn eich teulu i fynd i'r brifysgol (nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y cais UCAS bod gennych rieni neu warcheidwaid nad ydynt wedi mynychu'r brifysgol)
  • Rydych o dan 25 oed ac wedi treulio cyfnod o dri mis neu fwy mewn gofal ers yn 14 oed, rydych chi'n ofalwr ifanc, neu wedi’ch ymddieithrio oddi wrth eich teulu (nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y Ffurflen gais benodol)
  • Mae gennych un o'r statws mewnfudo canlynol:

- Ffoadur
- Diogelwch Dyngarol
- Ceisiwr Lloches
(nodwyd drwy wybodaeth hunan-ddatganedig ar y cais UCAS yn y lle cyntaf)

Aber Ar Agor

Bydd pob myfyriwr sy'n cwblhau ein rhaglen Aber Ar Agor yn llwyddiannus yn cael cynnig cyd-destunol gwell o 2 radd Safon Uwch neu 16 pwynt UCAS yn is na'r ystod cynnig isaf a gyhoeddwyd ar gyfer holl gyrsiau Israddedig Prifysgol Aberystwyth.

3. Cyfrifoldeb yr ymgeiswyr yw rhoi gwybod i’r Brifysgol am unrhyw amgylchiadau a allai fod wedi amharu ar eu hastudiaethau blaenorol neu gyfredol. Dylid cyflwyno’r wybodaeth honno i’r Swyddfa Derbyn wrth wneud y cais neu cyn gynted â phosib os bydd yr amgylchiadau arbennig yn codi ar ôl gwneud cais. Bydd amgylchiadau arbennig yn cael eu hystyried fel y gwêl y tiwtor derbyn perthnasol yn dda, os nad yw amgylchiadau o’r fath eisoes wedi’u hystyried gan y bwrdd arholi perthnasol.

4. Mae Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr a Gyrfaoedd y Brifysgol yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chanllawiau i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, cyn gwneud cais ac ar ôl gwneud cais. Ceir rhagor o wybodaeth yn https://www.aber.ac.uk/cy/sscs/.

5. Ceir hyd i bolisi’r Brifysgol ar dderbyn myfyrwyr anabl yn Atodiad 2.