10.14 Dedfrydau Troseddol

1. Mae’r Brifysgol yn ceisio darparu cyfleoedd i ddarpar fyfyrwyr a all elwa ar gynllun gradd neu gynllun arall, a’i gwblhau’n llwyddiannus, waeth beth fo’u cefndir. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod ganddi ddyletswydd i ofalu am ei myfyrwyr, ei staff a’i hymwelwyr.

2. Cyfrifoldeb myfyrwyr unigol yw datgan unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a allai effeithio ar eu hastudiaethau eu hunain a/neu beri risg i ddiogelwch staff a myfyrwyr y Brifysgol. Mae gan fyfyrwyr gyfrifoldeb i ddatgelu unrhyw resymau cyfreithiol a allai gyfyngu ar, neu’u hatal rhag cael mynediad i eiddo’r brifysgol, a/neu weithio ag unigolion, a/neu weithio â grwpiau, a/neu gael mynediad i’r rhyngrwyd drwy systemau ac adnoddau’r Brifysgol. Cysylltwch â’r Swyddfa Derbyn i gael rhagor o wybodaeth drwy’r cyfeiriad e-bost cyfrinachol: arconf@aber.ac.uk. Gall peidio â datgan yr wybodaeth hon i’r Brifysgol gael ei ystyried fel torri Gweithdrefnau Disgyblaethol y Brifysgol a gellir pennu cosbau yn unol â hynny.

3. Ceir hyd i Bolisi a Gweithdrefn y Brifysgol ar gyfer Derbyn Myfyrwyr gyda Dedfrydau Troseddol yn llawn yn Atodiad 4.