10.15 Gwneud Cynigion

1. Bydd y penderfyniad i wneud cynnig/cynigion yn dibynnu ar dderbyn cais llawn a chyflawn ac yn amodol ar y meini prawf derbyn myfyrwyr a ddiffinnir gan bob Cyfadran/Adran academaidd yn y strategaeth gwneud cynigion flynyddol.

2. Nod y Swyddfa Derbyn yw prosesu ceisiadau israddedig safonol ymhen dwy wythnos ar ôl eu derbyn. Mae’n bosib y cymer ychydig yn hwy i brosesu ceisiadau ansafonol y mae angen eu hanfon i adrannau academaidd. Mae’n bosib y cymer fwy o amser nag arfer i brosesu ceisiadau rhyngwladol anghyflawn neu y mae tystiolaeth wedi’i hepgor ohonynt.

3. Gwneir cynigion israddedig i ymgeiswyr fel arfer ar ffurf Pwyntiau Tariff UCAS i’r rhai sy’n astudio cymwysterau sydd wedi’u cynnwys yn y Tariff. Ar gyfer ymgeiswyr rhyngwladol, neu’r rhai sy’n astudio cymwysterau nad ydynt wedi’u cynnwys yn y Tariff UCAS, bydd cynigion yn cael eu gwneud yn unol â thariff cyfatebol i UCAS fel y bo’n briodol i’r cymwysterau a astudiwyd.

4. Hysbysir ymgeiswyr am statws eu cynnig ar-lein drwy UCAS Track (ar gyfer ymgeiswyr UCAS) ac yn ysgrifenedig drwy e-bost i’r rhai sy’n gwneud cais uniongyrchol neu drwy Common Application.

5. Bydd ymgeiswyr sy’n cael cynnig i astudio yn derbyn cynnig a gohebiaeth ynghylch cyfleoedd i ddod i ymweld. Anfonir rhagor o ohebiaeth (e.e. manylion dewisiadau llety) at yr ymgeisydd ar adegau gwahanol yn ystod y cylch ymgeisio.