10.11 Cyfweliadau

1. Fel rheol, nid yw’n ofynnol gan y Brifysgol fod ymgeiswyr yn cael cyfweliad yn rhan o’r broses derbyn israddedigion, ac eithrio ymgeiswyr ar gyfer BSc Nyrsio (Oedolion) a BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) a’r BVSc Gwyddor Filfeddygol (rhaglen gyfun a gynigir gyda’r Coleg Milfeddygol Brenhinol).

2. Caiff yr adran benderfynu gwahodd ymgeiswyr i gyfweliad os oes ganddynt gymwysterau ansafonol neu os yw’r ymgeiswyr yn hŷn ac nad ydynt yn bodloni’r gofynion mynediad safonol. Mewn achosion o’r fath, bydd yr adran academaidd berthnasol yn cysylltu â’r ymgeisydd ynghylch natur y cyfweliad ac am unrhyw drefniadau eraill (e.e. lleoliad, dyddiad).

3. Gall ymgeiswyr sy’n teithio i Aberystwyth i fynychu cyfweliad hawlio cyfraniad tuag at eu costau teithio yn unol â’r meini prawf a’r cyfraddau cyfredol. Ceir manylion am y rhain, yn ogystal â’r ffurflen i hawlio’r lefel berthnasol o ad-daliad ar gyfer costau teithio i gyfweliad israddedig, gan y Swyddfa Derbyn Israddedigion.