Caniatâd i gyflwyno traethawd PhD mewn ffurf amgen

 

Ffurf Amgen PhD

Mae’r Ffurf Amgen yn galluogi myfyriwr doethurol i gyflwyno deunydd sydd mewn ffurf addas i’w chyhoeddi mewn cyfnodolyn sy’n cael ei adolygu gan gymheiriaid yn hytrach na thraethawd traddodiadol. Heblaw cynnwys deunyddiau o’r fath, mae’r traethawd Ffurf Amgen yn cydymffurfio â’r un safon ac yn cael ei reoli gan yr un rheoliadau â’r traethawd PhD traddodiadol. Cyn llenwi’r ffurflen hon, a fyddech cystal â darllen y Rheoliadau ar gyfer gradd Doethur mewn Athroniaeth.

Cymhwysedd

Dylai myfyrwyr PhD amser llawn a rhan-amser sy’n dymuno cyflwyno eu traethawd ar Ffurf Amgen lenwi’r ffurflen hon erbyn diwedd ail flwyddyn eu cofrestriad (amser llawn) neu’r bedwaredd flwyddyn (rhan-amser). D.S.: nid yw’r dewis hwn ar gael i fyfyrwyr MPhil.

Y Drefn

Dylai myfyrwyr sydd â diddordeb holi eu goruchwylwyr yn gynnar yn ystod y cyfnod ymchwilio os ydynt o’r farn y gallai eu gwaith fod yn addas ar gyfer Ffurf Amgen. Os ydynt yn dymuno gwneud cais ffurfiol, dylai myfyrwyr lenwi’r ffurflen hon a’i chyflwyno i’r Athrofa. Bydd Pwyllgor Monitro Ymchwil yr Athrofa yn penderfynu a yw cyflwyniad Ffurf Amgen yn briodol ac rhoi gwybod am hyn yng nghyfarfod Monitro nesaf Ysgol y Graddedigion; os bydd y cais yn cael ei gymeradwyo, dylid anfon Caniatâd i gyflwyno traethawd phd mewn ffurf amgen i’r Cofrestrfa Academaidd a fydd yn cofnodi hynny ar y cofnod myfyriwr. Os na chaiff y cais ei dderbyn, bydd yr Athrofa yn egluro’r penderfyniad i’r myfyriwr.