-
Gweithdrefnau cyflwyno traethodau ymchwil gan gynnwys fersiynau electronig
Mae’n rhaid i’r myfyrwyr lenwi ffurflen bwriad i gyflwyno o leiaf fis CYN y dyddiad y maent yn bwriadu cyflwyno’u traethawd ymchwil. Bydd yr adrannau’n anfon y ffurflenni hyn i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Rhaid i’r Swyddfa Astudiaethau Uwchraddedig wedyn gymeradwyo’r arholwyr a enwebwyd.
Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cysylltu â’r arholwyr allanol i gael cadarnhad ysgrifenedig ffurfiol eu bod yn fodlon bod yn arholwyr. Heb y cadarnhad hwnnw, ni fydd modd anfon traethodau ymchwil at yr arholwyr.
Bydd y myfyrwyr yn cwblhau’r dogfennau cyflwyno ac yn eu cyflwyno i’w hadran ynghyd â dau gopi o’r traethawd ymchwil a fersiwn electronig ohono. Yna, mae’r adran yn anfon y traethawd ymchwil i’r Gofrestrfa. Sylwer na fydd modd anfon y traethawd ymchwil at yr arholwyr os bydd gan y myfyriwr unrhyw ddyledion i’r Brifysgol. Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cynnal gwiriadau ffioedd ac ni fydd angen i’r myfyriwr wneud dim; heblaw bod ganddo/ganddi arian yn weddill i’w dalu.
-
Ffioedd Cyflwyno
Rhaid i ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff, a oedd wedi’u heithrio rhag talu ffioedd dysgu o’r herwydd, dalu ffi gyflwyno, sef £248 (PhD) a £205 (MPhil) ar hyn o bryd, cyn i’w traethawd ymchwil gael ei arholi. Cewch dalu’r ffioedd cyflwyno drwy siec, drwy fynd i’r swyddfa gyllid neu drwy ffonio 01970 622040 gyda cherdyn banc neu gredyd. Gofynnir i chi nodi eich rhif myfyriwr gyda’ch taliad. Os gwneir y taliad i’r Ariannydd gofynnwch iddynt anfon cadarnhad o’r taliad i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Os yw eich adran yn trefnu’r taliad ar eich rhan drwy god adrannol cysylltwch â ni (ffôn: 01970 622272 / ebost: pgsstaff@aber.ac.uk) i gael cyfarwyddiadau pellach.
-
Ffioedd Ailgyflwyno
Rhaid i bob myfyriwr sy’n ailgyflwyno traethawd ymchwil dalu’r ffi fel y nodir yn y llythyr canlyniad.
-
A gaiff fy adran anfon fy nhraethawd ymchwil (copi electronig neu gopi caled) yn syth at fy arholwr/arholwyr? Rwy’n awyddus i’m traethawd gael ei arholi cyn gynted â phosib.
NA CHAIFF. Rhaid anfon pob copi o’r traethawd ymchwil drwy’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Dylech roi gwybod i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion pan wneir cais o’r fath.
-
Pwy sy’n trefnu fy Viva?
Eich adran fydd yn trefnu eich Viva Voce. Cysylltwch â Chydlynydd Astudiaethau Uwchraddedig eich adran i gael gwybod ar ba ddyddiad y cynhelir eich viva. Cewch gadarnhad ysgrifenedig gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ar ôl i’ch traethawd ymchwil gael ei anfon at yr arholwyr ac fel rheol cynhelir eich viva ymhen 12 wythnos ar ôl i’r arholwyr dderbyn y traethawd. Er hynny, gall fod adegau pan na fydd hyn yn bosib oherwydd gwrthdaro yn yr amserlen. Dylai eich adran bob amser roi gwybod i chi am unrhyw oedi wrth drefnu eich viva.
-
Ar ôl y viva: Rwyf newydd gael fy viva. Beth sy’n digwydd nesaf?
*NEWYDD*: Ar ôl y viva voce cewch gopi o’r ffurflen 'Cadarnhau’r Canlyniad Dros Dro'. Dylai’r ffurflen hon gadarnhau manylion y canlyniad i bawb sy’n berthnasol a bydd yn rhoi gwybodaeth am unrhyw brosesau gweinyddol y mae’n rhaid eu dilyn.
Llwyddiant yn amodol ar fân gywiriadau neu newidiadau:
Bydd Cadeirydd eich viva yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn cael adborth ysgrifenedig clir ynglŷn ag unrhyw fân gywiriadau (ymhen 4 wythnos) neu gywiriadau a newidiadau (ymhen 6 mis) y mae’r bwrdd arholi wedi gofyn amdanynt. Dylech gael y wybodaeth hon ar ddiwrnod y viva neu’n fuan iawn wedyn. Dylech hefyd gael cadarnhad ysgrifenedig yn nodi erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid i chi gyflwyno’r cywiriadau hyn. Dylid egluro i chi i bwy y mae’n rhaid i chi gyflwyno’r cywiriadau ac ym mha fodd.
-
Yr Adroddiad
Anfonir Adroddiad yr Arholwr i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn cadarnhau eich canlyniad. Cewch gopi o’r adroddiad ar y cyd ynghyd â’ch llythyr canlyniad swyddogol gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion
-
Protocol Cywiriadau
Gall eich goruchwyliwr roi cyngor i chi ynglŷn â’r cywiriadau yn ystod y cyfnod cywiro, cyn i chi eu cyflwyno i’r arholwyr. Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl gywiriadau angenrheidiol wedi’u gwneud, dylech gyflwyno’r traethawd ymchwil unwaith yn unig i’r arholwyr. Wedi i’r traethawd gael ei gyflwyno ni chaiff ei roi yn ôl i’r ymgeisydd i’w newid na’i wella ymhellach.
Sylwer: Ym mha fodd bynnag yr anfonwyd y cywiriadau at yr arholwyr i’w gwirio (yn electronig neu ar ffurf copi caled) os ystyrir nad yw’r cywiriadau wedi eu cwblhau er boddhad yr arholwyr, bernir bod y traethawd ymchwil yn aflwyddiannus ac ni fydd cyfle i’w ailgyflwyno.
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y bydd llawer o fyfyrwyr ymchwil wedi symud i ffwrdd o Aberystwyth. Gellir anfon y cywiriadau i’r arholwyr yn electronig o dan yr amodau isod:
Unwaith ac unwaith yn unig y dylid cyflwyno’r cywiriadau i’r arholwyr.
Rhaid i’r fersiwn electronig fod wedi’i gadw ar ffurf darllen yn unig, gyda chyfrinair arno neu wedi’i gloi at ddibenion golygu er enghraifft drwy osodiad “Diogelu’r Ddogfen” yn Word. -
Rhwymo’n barhaol
Wedi i’r cywiriadau neu’r newidiadau angenrheidiol gael eu cwblhau a’u cymeradwyo bydd yn rhaid i’r myfyrwyr ddarparu dau gopi wedi’u rhwymo’n barhaol o’r traethawd ymchwil i’w hadran.
-
Pa ddyddiad ddylai fod ar y meingefn?
Dylai’r meingefn nodi’r flwyddyn y cyflwynwyd y traethawd, pa bryd bynnag y cwblhawyd y cywiriadau. Er enghraifft, os cyflwynwyd y traethawd ym mis Medi 2012 ond na chynhaliwyd eich viva tan 2013, dyddiad 2012 ddylai fod ar y meingefn. Dylai traethodau ymchwil a ailgyflwynwyd yn llawn nodi dyddiad ailgyflwyno’r traethawd.
-
A oes angen i mi gyflwyno copi electronig o’r traethawd?
Mae’n rhaid i chi gyflwyno copi electronig o fersiwn terfynol eich traethawd i’ch adran, ynghyd â’r copïau caled. Caiff y copi hwn ei adneuo ym Mhorth Ymchwil Aberystwyth. Yn ogystal, mewn rhai amgylchiadau caiff myfyrwyr ddewis OPTIO ALLAN er mwyn sicrhau na chaiff eu traethawd ymchwil ei rannu’n electronig drwy Borth Ymchwil Aberystwyth. Os digwydd hynny, cedwir y copi electronig ar ffeil ond dim ond y teitl, y llyfryddiaeth a’r crynodeb fydd ar gael. I gael rhagor o wybodaeth am y ffurflenni a’r gweithdrefnau cysylltwch â’r Gwasanaethau Gwybodaeth (ffôn: 01970 622396/ebost:is@aber.ac.uk).
-
Pryd gaf fi fy llythyr canlyniad swyddogol (ymgeiswyr llwyddiannus)?
Bydd y Gofrestrfa’n anfon eich llythyr canlyniad swyddogol wedi i’ch adran anfon cadarnhad ysgrifenedig i’r Gofrestrfa fod fersiwn wedi’i rwymo’n derfynol o’ch traethawd wedi ei adneuo yn y llyfrgelloedd.
-
Mae’n rhaid i mi ailgyflwyno fy nhraethawd. Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae Cadeirydd eich viva yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn derbyn adborth ysgrifenedig clir ynglŷn â’ch viva a’r pwyntiau yr ymdriniwyd â hwy cyn ailgyflwyno’r traethawd. Dylech gael y wybodaeth hon ar ddiwrnod y viva neu’n fuan iawn wedyn. Dylid dychwelyd y ddau gopi o’ch traethawd ymchwil i chi hefyd.
Ar ôl i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion dderbyn Adroddiad Swyddogol eich adran byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich canlyniad.
Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn ysgrifennu atoch gyda’ch llythyr canlyniad swyddogol. Bydd y llythyr yn cadarnhau’r dyddiad olaf y cewch ailgyflwyno’r traethawd a swm y ffi ailgyflwyno sy’n ddyledus. Dyma pryd y cewch gopi o Adroddiad ar y Cyd yr arholwyr hefyd. Caiff eich cofnod myfyriwr ei ddiweddaru i gynnwys y dyddiad olaf y cewch ailgyflwyno.Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â’ch goruchwyliwr a’ch adran er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud yr holl newidiadau i’r traethawd ymchwil y mae eich arholwyr wedi gofyn amdanynt. Dylech hefyd sicrhau bod eich goruchwyliwr yn cael cyfle i weld y traethawd wedi’i ddiwygio’n llawn ac i roi sylwadau arno cyn i chi ei ailgyflwyno.
Pan fyddwch yn ailgyflwyno’r traethawd ymchwil bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen bwriad i gyflwyno arall a’r un dogfennau cyflwyno ag a lanwyd gennych wrth gyflwyno’r traethawd am y tro cyntaf.
Yr un fydd y gweithdrefnau gweinyddol wrth ailgyflwyno traethawd ymchwil ag ar gyfer ei gyflwyno am y tro cyntaf, gan gynnwys llenwi ffurflen bwriad i gyflwyno ac anfon y traethawd ymchwil gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.
Dim ond ar ôl i’r arholwyr adolygu’r traethawd sydd wedi’i ailgyflwyno, a hwythau’n fodlon bod y newidiadau angenrheidiol wedi’u gwneud, y mae modd penderfynu hepgor viva. Fel arall, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd modd hepgor y viva a hynny gyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion. -
Apelio
Bydd gennych 20 diwrnod o ddyddiad eich llythyr canlyniad swyddogol i apelio yn erbyn penderfyniad y Bwrdd Arholi. Dylech ddarllen y tudalennau isod ar y wefan ynglŷn â’r Rhesymau dros Apelio a’r Gweithdrefnau Apelio.
-
Beth yw’r dyddiad cau ar gyfer dod i’r Seremonïau Graddio bob blwyddyn?
Diwedd wythnos gyntaf mis Mehefin yw’r dyddiad cau i fyfyrwyr sydd am ddod i’r seremoni raddio ffurfiol. Mae’n rhaid bod y myfyrwyr wedi cwblhau eu proses arholi yn llawn gan gynnwys cwblhau’r holl gywiriadau a chyflwyno’r fersiynau terfynol o’u gwaith wedi’u rhwymo i’r adran er mwyn bod yn gymwys i ddod i’r seremoni.
Os ydych wedi dweud eich bod am ddod i’r seremoni raddio bydd ein staff yn cysylltu â chi drwy ebost yn gynnar ym mis Ebrill 2015. Os oes gennych gyfrif ebost gweithredol myfyriwr yn Aberystwyth chwiliwch yn y cyfrif hwnnw’n gyntaf. Os yw eich cyfrif myfyriwr wedi’i gau dylech chwilio yn eich cyfrif ebost arall.
Os ydych wrthi’n cwblhau eich cywiriadau ac os yw’n debygol y bydd eich proses arholi wedi’i chwblhau erbyn dechrau mis Mehefin argymhellir eich bod yn cofrestru ar gyfer y Graddio yn amodol ar eich canlyniad terfynol.
Os na dderbyniwch y neges ebost cysylltwch ag aocstaff@aber.ac.uk cyn gynted ag y bo modd.
-
Alla i ddim dod i’r seremoni/Rydw i wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer y seremoni eleni. A gaf fi ddod i’r seremoni y flwyddyn nesaf?
Cewch. Cysylltwch â’r Swyddfa Graddio graduation.office@aber.ac.uk i gael rhagor o fanylion. Ni fyddwch yn derbyn eich Tystysgrif Swyddogol hyd nes y byddwch wedi cymryd rhan yn y seremoni.
Cewch hefyd ddewis peidio â dod i’r seremoni a graddio in absentia.
-
Rydw i wedi dewis graddio in absentia. Pa mor hir fydd yn rhaid i mi aros cyn cael fy nhystysgrif?
Os dewiswch beidio â dod i’r seremoni raddio, bydd y Swyddfa Graddio’n anfon eich tystysgrif atoch 6-8 wythnos ar ôl y llythyr canlyniad swyddogol gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Bydd eich llythyr canlyniad yn nodi’r cyfeiriad post yr anfonir eich tystysgrif iddo. Mae’n hollbwysig eich bod yn rhoi gwybod i’r Swyddfa Graddio graduation.office@aber.ac.uk am unrhyw newid yn eich cyfeiriad.
-
Mae angen cadarnhad o’m gradd arnaf yn syth bin i’w ddangos i’m corff cyllido/cyflogwr ac ati.
Gall y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ddarparu cadarnhad, ar bapur pennawd ac arno stamp y Brifysgol, eich bod wedi cwblhau eich gradd a bod eich Tystysgrif Swyddogol yn yr arfaeth. I ofyn am lythyr cysylltwch ag aocstaff@aber.ac.uk, ffôn: 01970 622022. Mae’n rhaid bod myfyrwyr wedi cwblhau eu proses arholi yn llawn gan gynnwys cwblhau’r holl gywiriadau a chyflwyno’r fersiynau terfynol o’u gwaith wedi’u rhwymo i’r adran cyn y gall y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion ddarparu’r cadarnhad hwn. Gall gymryd 3-5 diwrnod gwaith i baratoi’r llythyr hwn.
-
Cadw mewn cysylltiad/Cysylltiadau defnyddiol
Gofynnir i chi gadw mewn cysylltiad â’r Brifysgol drwy roi gwybod i ni am unrhyw newid yn eich cyfeiriad drwy anfon ebost at: pgsstaff@aber.ac.uk neu drwy ysgrifennu at y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion, Llawr Cyntaf, Adeilad Cledwyn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3DD
Cysylltiadau defnyddiol:
Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion
Ruth Babcock-Whelan 01970 622272
Jessica Spring 01970 622015
Ariannydd y Swyddfa Gyllid
Jackie Hedley (Swyddfa Arian Parod, Canolfan Croesawu’r Myfyrwyr)
ffôn: 01970 622040
Y Swyddfa Graddio
-
Deunydd darllen pellach
Tudalennau Rheolau a Rheoliadau Academaidd Prifysgol Aberystwyth: