Ffioedd Cyflwyno

Rhaid i ymgeiswyr sy’n aelodau o’r staff, a oedd wedi’u heithrio rhag talu ffioedd dysgu o’r herwydd, dalu ffi gyflwyno, sef £248 (PhD) a £205 (MPhil) ar hyn o bryd, cyn i’w traethawd ymchwil gael ei arholi. Cewch dalu’r ffioedd cyflwyno drwy siec, drwy fynd i’r swyddfa gyllid neu drwy ffonio 01970 622040 gyda cherdyn banc neu gredyd. Gofynnir i chi nodi eich rhif myfyriwr gyda’ch taliad. Os gwneir y taliad i’r Ariannydd gofynnwch iddynt anfon cadarnhad o’r taliad i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion. Os yw eich adran yn trefnu’r taliad ar eich rhan drwy god adrannol cysylltwch â ni (ffôn: 01970 622272 / ebost: pgsstaff@aber.ac.uk) i gael cyfarwyddiadau pellach.