Protocol Cywiriadau

Gall eich goruchwyliwr roi cyngor i chi ynglŷn â’r cywiriadau yn ystod y cyfnod cywiro, cyn i chi eu cyflwyno i’r arholwyr. Pan fyddwch yn fodlon bod yr holl gywiriadau angenrheidiol wedi’u gwneud, dylech gyflwyno’r traethawd ymchwil unwaith yn unig i’r arholwyr. Wedi i’r traethawd gael ei gyflwyno ni chaiff ei roi yn ôl i’r ymgeisydd i’w newid na’i wella ymhellach.
 
Sylwer: Ym mha fodd bynnag yr anfonwyd y cywiriadau at yr arholwyr i’w gwirio (yn electronig neu ar ffurf copi caled) os ystyrir nad yw’r cywiriadau wedi eu cwblhau er boddhad yr arholwyr, bernir bod y traethawd ymchwil yn aflwyddiannus ac ni fydd cyfle i’w ailgyflwyno.
 
Mae’r Brifysgol yn cydnabod y bydd llawer o fyfyrwyr ymchwil wedi symud i ffwrdd o Aberystwyth. Gellir anfon y cywiriadau i’r arholwyr yn electronig o dan yr amodau isod:
Unwaith ac unwaith yn unig y dylid cyflwyno’r cywiriadau i’r arholwyr.
 
Rhaid i’r fersiwn electronig fod wedi’i gadw ar ffurf darllen yn unig, gyda chyfrinair arno neu wedi’i gloi at ddibenion golygu er enghraifft drwy osodiad “Diogelu’r Ddogfen” yn Word.