Mae’n rhaid i mi ailgyflwyno fy nhraethawd. Beth sy’n digwydd nesaf?

Mae Cadeirydd eich viva yn gyfrifol am sicrhau eich bod yn derbyn adborth ysgrifenedig clir ynglŷn â’ch viva a’r pwyntiau yr ymdriniwyd â hwy cyn ailgyflwyno’r traethawd. Dylech gael y wybodaeth hon ar ddiwrnod y viva neu’n fuan iawn wedyn. Dylid dychwelyd y ddau gopi o’ch traethawd ymchwil i chi hefyd.


Ar ôl i’r Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion dderbyn Adroddiad Swyddogol eich adran byddwn yn ysgrifennu atoch i gadarnhau eich canlyniad.


Bydd y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion yn ysgrifennu atoch gyda’ch llythyr canlyniad swyddogol. Bydd y llythyr yn cadarnhau’r dyddiad olaf y cewch ailgyflwyno’r traethawd a swm y ffi ailgyflwyno sy’n ddyledus. Dyma pryd y cewch gopi o Adroddiad ar y Cyd yr arholwyr hefyd. Caiff eich cofnod myfyriwr ei ddiweddaru i gynnwys y dyddiad olaf y cewch ailgyflwyno.

 

Mae’n bwysig cadw mewn cysylltiad â’ch goruchwyliwr a’ch adran er mwyn sicrhau eich bod yn gwneud yr holl newidiadau i’r traethawd ymchwil y mae eich arholwyr wedi gofyn amdanynt. Dylech hefyd sicrhau bod eich goruchwyliwr yn cael cyfle i weld y traethawd wedi’i ddiwygio’n llawn ac i roi sylwadau arno cyn i chi ei ailgyflwyno.


Pan fyddwch yn ailgyflwyno’r traethawd ymchwil bydd yn rhaid i chi lenwi ffurflen bwriad i gyflwyno arall a’r un dogfennau cyflwyno ag a lanwyd gennych wrth gyflwyno’r traethawd am y tro cyntaf.


Yr un fydd y gweithdrefnau gweinyddol wrth ailgyflwyno traethawd ymchwil ag ar gyfer ei gyflwyno am y tro cyntaf, gan gynnwys llenwi ffurflen bwriad i gyflwyno ac anfon y traethawd ymchwil gan y Swyddfa Ansawdd Academaidd a Chofnodion.


Dim ond ar ôl i’r arholwyr adolygu’r traethawd sydd wedi’i ailgyflwyno, a hwythau’n fodlon bod y newidiadau angenrheidiol wedi’u gwneud, y mae modd penderfynu hepgor viva. Fel arall, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y bydd modd hepgor y viva a hynny gyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion.