Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Nid yw rhywfaint o’r testun yn cyferbynnu’n ddigonol â lliw y cefndir, felly mae’n bosibl na fydd rhai pobl â nam ar eu golwg yn gallu darllen y testun. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.3 (Cyferbyniad (isafbwynt)) CHCG 2.1.

Ffurflenni

Nid yw’r labeli ar rai o’n ffurflenni wedi’u cysylltu’n gywir â’r elfen fewnbwn ar y ffurflen berthnasol, felly nid yw’n glir pa wybodaeth y dylai pobl ddefnyddio’r elfen fewnbwn ar ei chyfer. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid yw rhai o’r elfennau mewnbwn ar ein ffurflenni wedi’u gosod mewn setiau maes, felly nid yw’n glir a yw’r mewnbynnau hyn yn ddewisiadau gwahanol ar gyfer yr un cwestiwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Nid yw rhywfaint o’r testun cymorth sy’n gysylltiedig ag elfennau mewnbwn ffurflenni yn hygyrch wrth ddefnyddio bysellfwrdd, felly gall hyn beri anhawster wrth lenwi’r ffurflen os nad yw pobl yn deall beth ddylai’r elfen fewnbwn ei gynnwys. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.1.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1.

Ni ellir cael mynediad at y dewisydd dyddiad a ddefnyddir ar rai o’n ffurflenni drwy ddefnyddio bysellfwrdd, felly mae’r bobl sy’n llenwi’r ffurflen yn gorfod mewnbynnu’r manylion eu hunain. Er bod hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.2.1 (Bysellfwrdd) CHCG 2.1 gan fod dull amgen o gyflwyno’r wybodaeth, rydym yn nodi’r broblem yma er gwybodaeth.

Nid yw rhai o’r elfennau mewnbwn ar y ffurflenni yn dangos yn glir y fformat y dylid ei ddefnyddio, sy’n ei gwneud hi’n anodd i bobl wybod sut i ddarparu’r wybodaeth y gofynnir amdani. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf 3.3.2 (Labeli neu Gyfarwyddiadau) CHCG 2.1.

Ar rai o’n ffurflenni, nid yw’r drefn ffocws yn dilyn trefn resymegol, felly gall pobl sy’n defnyddio’r ffurflen hepgor maes gofynnol wrth lenwi’r ffurflen drwy ddefnyddio bysellfwrdd yn unig. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.3 (Trefn ffocws) CHCG 2.1.

Penawdau

Nid oes Pennawd 1 gweladwy na phriodol ar ambell dudalen, felly mae’n bosibl nad yw pwnc y brif dudalen yn hygyrch i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.3.1 (Gwybodaeth a Chysylltiadau) CHCG 2.1.

Delweddau

Ceir rhai delweddau â’r un testun amgen â delweddau eraill ar y dudalen, felly gall hyn fod yn ddryslyd i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun) Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau (CHCG) 2.1.

Allweddell

Nid yw dangosydd ffocws y bysellfwrdd yn amlwg ar rai o’n botymau, felly mae’n bosibl y bydd pobl sy’n defnyddio bysellfyrddau yn ansicr o beth ydynt. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 2.4.7 (Ffocws Gweladwy) CHCG 2.1.

Testun

Wrth chwyddo maint y ffont, mae rhywfaint o’r testun yn cael ei guddio neu ei guddio’n rhannol, felly ni all pobl weld y testun i gyd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddo 1.4.4 (Ailosod Maint y Testun) CHCG 2.1.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

  • Diweddaru’r testun amgen os ceir delweddau lluosog â’r un testun amgen
  • Diweddaru’r tudalennau â phenawdau priodol a gweladwy
  • Cywiro labeli ffurflenni sydd heb eu cysylltu’n gywir ag elfennau mewnbwn ffurflenni
  • Ychwanegu gwybodaeth at elfennau mewnbwn ffurflenni os oes angen egluro neu gadarnhau’r fformat gofynnol
  • Ychwanegu setiau maes at elfennau mewnbwn ar ffurflenni, yn ôl yr angen
  • Cywiro’r drefn ffocws ar rai ffurflenni
  • Newid rhai o’r lliwiau a ddefnyddir er mwyn sicrhau digon o gyferbyniad
  • Gwneud dangosydd ffocws y bysellfwrdd yn fwy amlwg
  • Gwneud y testun cymorth ar gyfer elfennau mewnbwn ffurflenni yn hygyrch pan ddefnyddir bysellfwrdd
  • Ail-ddylunio’r safle er mwyn sicrhau nad yw maint y testun, o’i chwyddo i 200%, yn cael ei guddio nac yn ymestyn dros ymyl y dudalen

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 23/9/2019. Byddwn yn adolygu’r datganiad hwn bob blwyddyn ac yn ei adolygu nesaf ym mis Medi 2020.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 11/09/2019. Cynhaliwyd y prawf gan staff y Tîm Cymwysiadau ac Integreiddio, yn y Gwasanaethau Gwybodaeth.