Datganiad Hygyrchedd Technegol

Gwybodaeth Dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sectorau Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwefannau fersiwn 2.1, oherwydd y rhannau a restrir isod nad ydynt yn cydymffurfio.

Cynnwys anhygyrch

Nid yw'r cynnwys a restrir isod ar gael am y rhesymau canlynol.

Achosion o beidio â chydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Lliw

Does dim digon o gyferbyniad lliw ar rannau o’r testun ar bob tudalen. Gall hyn olygu na all pobl â namau penodol ar eu golwg ddarllen y cynnwys hwn. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.3 WCAG 2.1, sef Cyferbyniad (Lleiaf).

Ffurflenni

Ar y ffurflen chwilio, mae dalfan yn cael ei ddefnyddio yn hytrach na label. Gall hyn olygu nad yw'n glir i bobl sy’n llenwi'r ffurflen pa ddata y dylen nhw ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Does dim labeli gweladwy gan rai meysydd mewn ffurflenni. Gall hyn olygu ei bod yn anos i bobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ddeall pa ddata a ddylai gael ei roi yn y maes. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.5 WCAG 2.1, sef Adnabod Diben y Mewnbwn.

Penawdau

Mae rhai tudalennau'n sgipio un lefel o benawdau. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Mae rhai tudalennau’n defnyddio penawdau i amlygu testun nad yw’n bennawd mewn gwirionedd. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Delweddau

Mae rhai delweddau heb destun fel dewis amgen defnyddiol. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn y delweddau ar gael (neu ei bod yn peri dryswch) i bobl sy’n defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.1, sef Cynnwys Annhestunol.

Bysellfwrdd

Does dim modd cyrchu rhai rhannau o dudalennau drwy gyfrwng y bysellfwrdd. Mae hyn yn cynnwys is-ddewislenni yn yr adran lywio. Mae hyn yn golygu nad yw'r wybodaeth yn yr is-ddewislenni ar gael i bobl sy'n llywio drwy gyfrwng y bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.1.1 WCAG 2.1, sef Bysellfwrdd.

Nid yw'r dynodwr ffocws yn weladwy pan fyddwch chi ar eitemau penodol ar y tudalen megis y rhestr dewis 'Pob Adran' a'r botwm 'Ychwanegu at y Fasged'. Gall hyn olygu nad yw pobl yn siŵr ble maen nhw ar y tudalen wrth geisio cyrchu’r wefan drwy ddefnyddio bysellfwrdd. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.7 WCAG 2.1, sef Ffocws Gweladwy.

Tirnodau

Does dim tirnodau wedi'u nodi yn y tudalennau. Mae hyn yn golygu y gallai pobl sy'n defnyddio technoleg gynorthwyol ei chael hi'n anodd cyfeirio eu hunain a llywio o gwmpas y tudalennau. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Iaith

Mae testun Cymraeg a Saesneg ar gael ar yr un tudalennau. Gall hyn beri dryswch i bobl sy'n defnyddio darllenwyr sgrin gan y bydd yr holl destun yn cael ei ddarllen ar sail yr un rheolau iaith ac ynganu. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1 WCAG 2.1, sef Iaith y Tudalen.

Does dim gwybodaeth am iaith y tudalen wedi'i diffinio. Gall hyn olygu na all technoleg gynorthwyol gyflwyno'r testun yn y ffordd gywir. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 3.1.1 WCAG 2.1, sef Iaith y Tudalen.

Dolenni

Mae gan rai tudalennau nifer o ddolenni sy’n defnyddio'r un testun. Mae hyn yn peri dryswch pan fydd rhywun yn cyrchu’r tudalennau drwy ddefnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 2.4.4 WCAG 2.1, sef Diben Dolen (Yn ei Chyd-destun).

Tablau

Mae tablau’n cael eu defnyddio ar gyfer y cynllun drwy'r wefan i gyd. Mae hyn yn peri dryswch a rhwystredigaeth pan fydd pobl yn defnyddio technoleg gynorthwyol. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.3.1 WCAG 2.1, sef Gwybodaeth a Pherthnasoedd.

Testun

Pan fydd chwyddiad y porwr yn cael ei gynyddu i 300%, nid yw’r testun yn ail-lifo. Mae hyn yn golygu y bydd pobl sydd angen chwyddo’r testun yn gorfod sgrolio o'r chwith i'r dde i'w ddarllen. Nid yw hyn yn bodloni maen prawf llwyddiant 1.4.10 WCAG 2.1, sef Ail-lifo

Yr hyn rydyn ni'n ei wneud i wella hygyrchedd

Rydyn ni wrthi’n ymchwilio i welliannau i'r siop ar-lein, os bydd yr offeryn trydydd parti yn caniatáu.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn 

Diweddarwyd y datganiad hwn ddiwethaf ar 22/9/20. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 22/9/20.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 22/9/20. Cynhaliwyd y prawf yn fewnol gan ddefnyddio cyfuniad o brofion â llaw ac awtomataidd.