System Rhoi Gwybod am Ddigwyddiadau
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu system rhoi gwybod am ddigwyddiadau trwy gyfrwng ei Hadran Iechyd a Diogelwch. Ystadau, Cyfleusterau & Preswylfeydd defnydd o’r system yn unol â’r datganiad diogelu data Iechyd a Diogelwch.
Rydym yn cofnodi data (weithiau bersonol) trwy gyfrwng adroddiadau am ddigwyddiad, ac yn defnyddio’r wybodaeth hon i ymchwilio / i gofnodi ystod o faterion megis: damweiniau neu ddamweiniau agos Iechyd a Diogelwch, ac achosion o dorri’r Cytundeb Trwydded Llety.
Yn ogystal, cedwir cofnod o ddigwyddiadau yn ystafell reoli Diogelwch (Gampws Penglais), gan gofnodi manylion sylfaenol yr holl gamau gweithredu / digwyddiadau allweddol 24/7/365. Mae unrhyw data bersonol yn gyfyngedig i enwau / lleoliadau, a dim ond er mwyn croesgyfeirio â systemau adrodd eraill, megis rhoi gwybod am ddigwyddiadau a diffygion, y’i defnyddir.
Bydd rhestrau cofnodi digwyddiadau yn cael eu ffeilio dan glo am gyfnod o 12 mis cyn cael eu dinistrio.
• Sail gyfreithlon: Buddiant dilys.