Ffurflen cais parcio Beiciau'n Ddiogel
Cesglir data trwy gyfrwng y ffurflen gais i storio beiciau’n ddiogel dan do, a chaiff y ffurflen ei chyflwyno i Dderbynfa’r Swyddfa Llety.
Bydd y data a gesglir yn cynnwys (ond ddim o reidrwydd yn gyfyngedig i): enw llawn, manylion cyswllt, enw defnyddiwr Prifysgol Aberystwyth, manylion llety, manylion beic.
Mae’n bosibl y rhennir data yn fewnol â swyddogion diogelwch os gadewir unrhyw feic ar ddiwedd y cyfnod yn y llety.
Cedwir data’n lleol ar ffurf copi caled a cheir gwared arnynt 12 mis wedi diwedd y flwyddyn academaidd honno.
• Sail gyfreithlon: Cydsyniad/Contract.