Polisi Blaenoriaethau

Mae gan Brifysgol Aberystwyth un o’r cymarebau uchaf yn y DU o ran y lleoedd sydd ar gael mewn llety i’r myfyrwyr, ond nid yw’n bosibl rhoi pob myfyriwr sydd eisiau llety mewn llety a reolir gan y Brifysgol.

Lluniwyd y categorïau blaenoriaeth canlynol i sicrhau bod y polisi gosod llety yn cael ei weithredu’n gyson a theg. Dylid nodi bod y ddogfen hon yn cyfeirio at fyfyrwyr sydd wedi'u cofrestru a Phrifysgol Aberystywth ac mae'n berthnasol i unrhyw fyfyriwr presennol neu ddarpar fyfyriwr sy'n gwneud cais am lety ym Mhrifysgol Aberystwyth p'un ai eu bod wedi'u cynnwys yn y gwarant llety neu beidio.

 

Categorïau blaenoriaeth am leoedd mewn llety a reolir gan y brifysgol

Mae’n rhaid i’r ceisiadau am leoedd mewn llety a reolir gan y Brifysgol gael eu derbyn erbyn y dyddiadau cau a gyhoeddwyd, yn y flwyddyn mynediad, sydd ar gael ar Dyddiadau ar gyfer eich Dyddiadur.

I fod yn gymwys am le wedi’i warantu, mae’n rhaid i ymgeiswyr sicrhau bod eu cais yn dod i law erbyn y dyddiadau cau yn y flwyddyn mynediad a gyhoeddwyd, a’u bod yn ymateb i’r cynnig o lety erbyn y dyddiad cau a nodir yn y Cynnig o Lety. Sylwer, er ein bod yn gwarantu lle mewn Llety sy'n eiddo i’r Brifysgol, neu a reolir ganddi, ni allwn warantu darparu math penodol o lety, na lleoliad penodol.

Gwarentir lle i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol ar gyfer pob sesiwn academaidd trwy gydol yr elfen o’u hastudiaethau a ddysgir drwy gwrs:

  • Myfyrwyr tramor sy’n talu ffioedd (israddedig ac uwchraddedig).
  • Dalwyr Ysgoloriaethau Mynediad a Bwrsariaethau Chwaraeon
  • Myfyrwyr sydd wedi bod o dan ofal Awdurdod Lleol pan oeddynt yn 16 oed a/neu yn syth cyn dechrau yn y Brifysgol.

Sylwer bod rhaid cydymffurfio â’r Cyfnodau Trwyddedau Llety.

Gwarentir lle i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol ar gyfer sesiwn academaidd blwyddyn gyntaf eu rhaglen a ddysgir drwy gwrs yn Aberystwyth:

  • Myfyrwyr Israddedig amser‐llawn newydd, sy’n byw yn y DU/UE ac sy’n astudio cynlluniau astudio sy’n arwain at ddyfarniadau Prifysgol. Caiff myfyrwyr ‘dewis pendant’ flaenoriaeth wrth ddyrannu’r ystafelloedd dros y myfyrwyr ‘dewis wrth gefn’.
  • Israddedigion amser-llawn newydd sy’n byw yn y DU/UE a fydd yn ymuno ag Aberystwyth drwy’r broses Glirio neu Addasu.
  • Myfyrwyr Uwchraddedig newydd sy’n byw yn y DU/UE.
  • Myfyrwyr cyfnewid os oes gan Aberystwyth gontract i ddarparu llety yn gyfnewid am gytundeb bod myfyrwyr Aberystwyth yn cael llety yn eu Prifysgolion hwy.
  • Myfyrwyr sy’n ymweld nad ydynt yn astudio cynlluniau astudio sy’n arwain at ddyfarniadau Prifysgol Aberystwyth ac sy’n talu’r ffioedd dysgu priodol (ar sail pro rata fel y bo’n briodol).
  • Myfyrwyr sy’n dychwelyd ar ôl cyfnod o dynnu allan dros dro/absenoldeb i ailgychwyn ar eu blwyddyn gyntaf o astudio.

Sylwer bod rhaid cydymffurfio â’r Cyfnodau Trwyddedau Llety. 

Gwarentir lle i fyfyrwyr yn y categori canlynol ar gyfer y sesiwn academaidd yn syth ar ôl iddynt ddychwelyd i Aberystwyth:

  • Myfyrwyr amser‐llawn sy’n ymgymryd â blwyddyn ryng‐gwrs a gymeradwywyd, neu flwyddyn dramor orfodol neu sy’n cymryd rhan yn y cynllun BMG dewisol sy’n gorfod byw y tu allan i ardal Aberystwyth.

Sylwer bod rhaid cydymffurfio â’r Cyfnodau Trwyddedau Llety

Ni warentir llety i fyfyrwyr yn y categorïau canlynol a chânt gynnig llety os bydd lleoedd gwag ar gael yn unig:

  • Myfyrwyr Erasmus/Socrates.
  • Myfyrwyr sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn yr ail semester.
  • Myfyrwyr y mae eu hastudiaethau yn para am ddau semester yn unig.
  • Myfyrwyr sy’n dechrau ar eu hastudiaethau yn y semester cyntaf.
  • Myfyrwyr rhan‐amser sydd wedi cofrestru yn y Brifysgol gan gynnwys y rhai sy’n ailsefyll arholiadau’n allanol.
  • Myfyrwyr sy’n Dychwelyd.

Gall israddedigion sy’n mynd i’w blwyddyn olaf o astudio ac unrhyw fyfyrwyr Uwchraddedig sy’n dychwelyd gael eu hystyried am flaenoriaeth llety, ar sail y cyntaf i’r felin, os bydd llety ar gael.

Dyrannu llety

  • Myfyrwyr Presennol – dyrennir y llety drwy sustem gyfrifiadurol sy'n dilyn yr un drefn, yn ôl y dyddiad a'r amser, ag y cyflwynodd y myfyrwyr eu ceisiadau llwyddiannus am lety - y cyntaf i'r felin gaiff falu.
  • Myfyrwyr Newydd – dyrennir y llety drwy sustem gyfrifiadurol sy'n dilyn yr un drefn, yn ôl y dyddiad a'r amser, ag y derbyniodd yr ymgeiswyr eu lle i astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth - y cyntaf i'r felin gaiff falu. Bydd ymgeiswyr sydd wedi cael sicrwydd llety / blaenoriaeth llety, yn unol â'r polisi hwn, yn cael blaenoriaeth am lety, yn annibynnol ar y drefn uchod.

Dyrannu ystafelloedd

Byddwn yn dyrannu ystafell i chi, gan ystyried y dewisiadau a roesoch yn eich cais am lety, a byddwn yn ymdrechu i gynnig un o'ch dewisiadau i chi. Serch hynny, oherwydd bod y neuaddau yn amrywio o ran y nifer o ystafelloedd ac oherwydd bod rhai yn fwy poblogaidd na'i gilydd, ni allwn warantu y cewch eich dewis lety. Os nad oes lle ar gael yn eich dewis cyntaf, ystyriwn eich dewisiadau eraill yn eu trefn nes y bydd lle ar gael. Os nad oes yr un o'ch dewisiadau ar gael byddwn yn cynnig dewis arall rydym yn credu y bydd yn addas i chi.

Ein polisi yw darparu llety cymysg o ran cenedligrwydd y myfyrwyr ac o ran y rhywiau. Ond os ydych am wneud cais i gael eich rhoi mewn fflat neu dŷ sydd â dynion neu fenywod yn unig, nodwch hynny ar eich cais am lety a byddwn yn ceisio trefnu hynny, lle bydd lleoedd ar gael.

Fel arfer rydym yn dyrannu blociau ar wahân i israddedigion (gan gynnwys glasfyfyrwyr, a myfyrwyr sy'n dychwelyd o Astudio Dramor neu'r cynllun Erasmus) ac i uwchraddedigion. Serch hynny, mae'n bosib na fydd modd gwneud hynny bob amser, yn enwedig os bydd y niferoedd mewn un grŵp yn fwy na'r disgwyl.

Myfyrwyr gyda gofynion penodol

Byddwn yn gwneud pob ymdrech i roi myfyrwyr gyda gofynion penodol mewn llety addas, ar sail pob achos unigol, waeth beth fo’u safle yn y categorïau isod.

Ceir rhagor o wybodaeth ynglŷn â gofynion penodol ar gyfer llety ar Cymorth Myfyrwyr.