Dyddiadau Archwiliadau Cymunedol ac Ystafelloedd Gwely

Cegin yn un o'r fflatiau yn Fferm Penglais

Er mwyn sicrhau eich diogelwch, a bod yr holl offer diogelwch tân yn gwbl weithredol, bydd Gwiriadau Diogelwch Tân a Chydymffurfiaeth yn cael eu cynnal fel a ganlyn...

Archwiliadau Ardaloedd Cymunedol - Bob 3 wythnos

Arolygiad Ystafelloedd Gwely - Unwaith y tymor

Beth?

Yn ystod pob archwiliad CYMUNEDOL byddwn yn ....

  • cynnal gwiriad gweledol o'r diffoddwyr a blancedi tân
  • gwirio nad oes neb wedi ymyrryd ag unrhyw offer atal tân
  • gwirio nad oes unrhyw wrthrychau yn rhwystro mynediad a llwybrau dianc rhag tân
  • gwirio nad oes unrhyw ddrysau tân yn cael eu cadw ar agor
  • mynd â unrhyw eitemau gwaharddedig a ganfyddir (fel y rhestrir yn y Llawlyfr Preswylwyr)
  • cofnodi unrhyw ddifrod a glendid cyffredinol eich mannau cymunedol

Yn ystod pob arolygiad YSTAFELL WELY byddwn yn ....

  • edrych am unrhyw ddifrod a gwneud sylw o lendid cyffredinol eich ystafell
  • gwirio nad oes unrhyw lwyth anniben ar y llawr sy’n rwystr i lwybr dianc rhag tân
  • mynd â unrhyw eitemau gwaharddedig a ganfyddir (fel y rhestrir yn y Llawlyfr Preswylwyr)
  • gwirio am unrhyw ymyrraeth ar y synhwyrydd mwg
  • gwirio cyflwr a diogelwch eich ffenestr
  • gwirio nad yw'r drws wedi'i ddal ar agor

Os oes angen, byddwn yn trefnu archwiliad glanhau ychwanegol o'ch fflat / tŷ / stiwdio neu ystafell wely.

Pwy?

Bydd aelod o’r tîm preswylfeydd a fydd yn gwisgo gwisg lawn a cherdyn adnabod yn cynnal y gwiriadau diogelwch tân a chydymffurfiaeth yn eich ardaloedd cymunedol ac ystafelloedd gwely.

Pryd?

Bydd pob archwiliad yn cael ei gwblhau rhwng 9.30am a 4.30pm

Cliciwch ar y ddolen isod am ddyddiadau archwiliadau Cymunedol ac Ystafelloedd Gwely ar gyfer y tymor yma.

 

Archwiliadau Tymor 2