Yswiriant Eiddo Personol

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth ag Endsleigh i roi yswiriant eiddo i chi.

Eich Cynnwys. Yn ddiogel.

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio mewn partneriaeth ag Endsleigh, prif ddarparwr yswiriant i fyfyrwyr yn y DU, i ddiogelu’r cynnwys yn eich ystafell. Nid oes raid i chi wneud unrhyw beth i ysgogi’r yswiriant hwn, ond mae’n bwysig i chi wirio a gwneud yn siŵr eich bod yn deall yr yswiriant a ddarperir yn llawn ac os yw’n ddigonol i’ch anghenion.

Mae Endsleigh yn gwybod y gall bywyd ddod i stop heb eich eiddo, felly mae’n werth treulio rhai munudau’n sefydlu a yw’r pethau sydd fwyaf pwysig i chi wedi’u diogelu y tu mewn a’r tu allan i’ch ystafell. Rhain yw’r unig ddarparwyr yswiriant a argymhellir gan yr NUS ac maent wedi bod yn addasu eu cynnyrch a’u gwasanaethau o amgylch anghenion eu cwsmeriaid am 50 mlynedd a mwy.

Edrychwch ar y dystysgrif polisi sydd ynghlwm sy’n darparu crynodeb o’r yswiriant, gan gynnwys geiriad y polisi a’r ffeithiau allweddol.

Tystysgrif Polisi (PDF)

Geiriad y Polisi (PDF)

Ffeithiau Allweddol (PDF)

I gael rhagor o wybodaeth ac i ddysgu sut i Estyn a phersonoli eich yswiriant, ewch i gwirio eich yswiriant.*

Hawlio

Gobeithio na fydd raid i chi hawlio am unrhyw beth yn ystod eich cyfnod yn byw yn llety’r Brifysgol, ond os bydd angen, bydd yn rhaid i chi gysylltu’n uniongyrchol ag Endsleigh. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn sydd angen ei wneud i hawlio ar weddalen Endsleigh.*

Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn rhannu eich data personol ag Endsleigh. Ond, os byddwch yn hawlio am rywbeth mae’n bosibl y bydd Endsleigh yn cysylltu â ni er mwyn cadarnhau eich manylion a’ch bod yn byw yn llety’r Brifysgol. Ceir rhagor o wybodaeth am sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei thrin ar ein gweddalen Gwybodaeth Diogelu Data a Pholisi Preifatrwydd Endsleigh.

*Nid yw Prifysgol Aberystwyth yn gyfrifol am gynnwys unrhyw wefannau allanol, felly mae’n bosibl na fydd y safle ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg.