Arweiniad CAM wrth GAM i sicrhau Llety Uwchraddedig
- Gwneud cais i PA am le ar gwrs neu raglen ymchwil.
- Cael llythyr Cynnig Amodol gan y Swyddfa Derbyn Graddedigion, bydd hyn yn cynnwys eich rhif adnabod personol 10 nod
- Bodloni amodau’r Cynnig – ni allwch wneud cais am lety oni bai eich bod wedi gwneud hyn
- O 1 Ebrill ymlaen, cewch wahoddiad i wneud cais ar-lein am lety (caiff y llythyr ei anfon i’r cyfeiriad cartref)
- Gwneud cais ar-lein am lety – ceisiadau’n agor o 1 Ebrill. Gwnewch gais erbyn 1 Medi i sicrhau llety
- Caiff eich cynnig electronig o lety ei anfon atoch yn awtomatig – gwiriwch eich e-bost yn rheolaidd gan gynnwys eich e-bost sothach
- Cychwyn eich cyfrif e-bost PA i allu derbyn eich Cynnig Llety – mis Gorffennaf ymlaen
- 23-25 Medi, Penwythnos y Glas – Symud i’ch ystafell
Allwedd: PA = Prifysgol Aberystwyth