5.10 Ffioedd a Threuliau

1. Rhoddir manylion y ffïoedd blynyddol yn y llythyr penodi ac telir ffïoedd trwy drosglwyddiad banc ac yn unol â’r cynllun TWE.

2. Telir treuliau (yn amodol ar gyflwyno derbynebau gwreiddiol) trwy drosglwyddiad banc.

3. Telir y ffi yn amodol ar dderbyn adroddiad blynyddol a Ffurflen Hawlio Costau; dylai arholwyr allanol gyflwyno’r Ffurflen Hawlio Costau wrth gyflwyno’r adroddiad blynyddol.

4. Dylai arholwyr allanol cynlluniau uwchraddedig trwy gwrs gadw cofnod o enwau’r ymgeiswyr traethawd hir a arholwyd; gellir cyflwyno ffurflen hawlio ar adeg arholi’r traethawd hir, neu gyflwyno rhestr gyflawn ar y ffurflen hawlio flynyddol.

5. Nid oes modd gweinyddu ceisiadau hawlio ffioedd a threuliau oni chwblhawyd y broses gwirio hawl i weithio.