9.2 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau

Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) / Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) Lefel 4: Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) /Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).

1. Atodiad D ASA: Ceir disgrifiadau dosbarthiad canlyniadau ar gyfer graddau FHEQ Lefel 6 a FQHEIS Lefel 10 yma: https://ukscqa.org.uk/wp-content/uploads/2019/10/Frameworks-Annex-with-Degree-classification-descriptions.pdf . Mae'r atodiad yn nodi disgrifiadau cyffredin ar gyfer y pedwar prif ddosbarthiad canlyniad gradd ar gyfer graddau baglor gydag anrhydedd. Mae'r datganiadau hyn yn adeiladu ar y disgrifwyr yn Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU (FHEQ) a Fframwaith Cymwysterau Sefydliadau Addysg Uwch yn yr Alban (FQHEIS), ar gyfer graddau baglor gydag anrhydedd (Lefel 6 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon; a Lefel 10 yn yr Alban). Cyhoeddir y rhain gyda'i gilydd yma: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf .

2. Bydd deiliaid Tystysgrif Addysg Uwch / Tystysgrif Genedlaethol Uwch yn meddu ar wybodaeth dda o gysyniadau sylfaenol pwnc, a byddant wedi dysgu sut i fabwysiadu dulliau gwahanol wrth ddatrys problemau. Byddant yn gallu cyfathrebu’n gywir a bydd ganddynt y nodweddion angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth fydd yn gofyn am ymarfer rhywfaint o gyfrifoldeb personol. Bydd yr HNC yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol. Gallai’r CertHE a’r HNC ill ddau fod yn gam cyntaf at sicrhau cymwysterau uwch.

3. Caiff cymwysterau Tystysgrif Addysg Uwch /Tystysgrif Genedlaethol Uwch eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:

(i) gwybodaeth o’r cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’u maes/meysydd astudio, a’r gallu i werthuso a dehongli’r rhain o fewn cyd-destun y maes astudio hwnnw

(ii) y gallu i gyflwyno, gwerthuso a dehongli data ansoddol a/neu feintiol, er mwyn datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau cadarn yn unol â damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol eu pwnc/pynciau astudio.

4. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) gwerthuso addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau sy’n ymwneud â’u maes/meysydd astudio a/neu waith

(ii) cyfleu canlyniadau eu hastudiaethau/gwaith yn gywir ac yn ddibynadwy trwy ddadleuon strwythuredig a rhesymegol

(iii) ymgymryd â rhagor o hyfforddi a datblygu sgiliau newydd o fewn amgylchedd strwythuredig dan reolaeth.

5. A bydd gan y deiliaid:

(i) y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth fydd yn gofyn am ymarfer rhywfaint o gyfrifoldeb personol.

Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 5: Gradd Sylfaen/HND/DipHE

6. Bydd deiliaid cymwysterau ar y lefel hon wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion yn eu maes astudio, ac wedi dysgu cymhwyso’r egwyddorion hynny’n ehangach. Drwy hyn byddant wedi dysgu gwerthuso addasrwydd dulliau gwahanol wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl y bydd gogwydd galwedigaethol wedi bod i’w hastudiaethau, er enghraifft Graddau Sylfaen ac HND, gan ganiatáu iddynt berfformio’n effeithiol yn eu dewis faes. Bydd deiliaid cymwysterau ar y lefel hon yn meddu ar y nodweddion angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth mewn sefyllfaoedd sy’n gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.

7. Caiff Graddau Sylfaen / Diplomâu Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Addysg Uwch eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:

(i) gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion sefydledig eu maes/meysydd astudio, a’r modd y mae’r egwyddorion hyn wedi datblygu

(ii) y gallu i gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol y tu hwnt i’r cyd-destun yr astudiwyd hwy ynddo i ddechrau, gan gynnwys, lle bo’n briodol, cymhwyso’r egwyddorion hynny mewn cyd-destun cyflogaeth

(iii) gwybodaeth o’r prif ddulliau ymchwilio yn y pwnc/pynciau sy’n berthnasol i’r cymhwyster a enwir, a’r gallu i werthuso’n feirniadol addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn y maes astudio

(iv) dealltwriaeth o derfynau eu gwybodaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddadansoddiadau a dehongliadau sy’n seiliedig ar yr wybodaeth honno.

8. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) defnyddio amrywiaeth o dechnegau sefydledig i gychwyn ar ac ymgymryd â dadansoddiad beirniadol o wybodaeth a chynnig datrysiadau i broblemau sy’n codi o’r dadansoddiad hwnnw

(ii) cyfleu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad yn effeithiol mewn amrywiaeth o ffurfiau i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr, a defnyddio technegau allweddol y ddisgyblaeth yn effeithiol

(iii) ymgymryd â rhagor o hyfforddi, datblygu sgiliau cyfredol a dysgu cymwyseddau newydd fydd yn eu galluogi i ymgymryd â chyfrifoldeb sylweddol mewn sefydliadau.

9. A bydd gan y deiliaid:

(i) y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.

Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 6: Gradd Baglor ag anrhydedd / Diplomâu Graddedigion / Tystysgrifau Graddedig

10. Bydd deiliaid gradd Baglor ag anrhydedd / Diploma Graddedig / Tystysgrif Raddedig wedi datblygu dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, a bydd rhywfaint o’r wybodaeth honno ar ffiniau cyfredol disgyblaeth academaidd. Drwy hyn, bydd y deiliad wedi datblygu technegau dadansoddi a sgiliau datrys problemau y gellir eu cymhwyso i nifer o fathau o gyflogaeth. Bydd deiliad cymhwyster o’r fath yn gallu gwerthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau, i ddod i farn gadarn a chyfathrebu hynny’n effeithiol.

11. Dylai deiliad cymhwyster ar y lefel hon feddu ar y nodweddion sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn sefyllfaoedd sy’n gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth nad oes modd eu rhagweld.

12. Caiff dyfarniadau ar y lefel hon eu gwneud i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:

(i) dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol eu maes astudio, gan gynnwys caffael gwybodaeth gydlynol a manwl, gyda rhywfaint o’r wybodaeth honno o leiaf yn arwain agweddau diffiniedig o’r ddisgyblaeth benodol

(ii) y gallu i ddefnyddio technegau sefydledig o ddadansoddi ac ymholi mewn disgyblaeth yn gywir

(iii) dealltwriaeth gysyniadol o’r hyn sy’n galluogi i’r myfyriwr wneud y canlynol:

  • o dyfeisio a chynnal dadleuon, a/neu ddatrys problemau, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau, a bydd rhai ohonynt yn arwain y ddisgyblaeth dan sylw;
  • o ddisgrifio a chynnig sylwadau ar agweddau penodol o ymchwil cyfredol, neu ysgolheictod uwch cyfatebol, yn y ddisgyblaeth

(iv) dealltwriaeth o ansicrwydd, amwyster a therfynau gwybodaeth

(v) y gallu i reoli eu dysgu eu hun, a gwneud defnydd o adolygiadau ysgolheigaidd a ffynonellau gwreiddiol (er enghraifft erthyglau wedi’u cymedroli a/neu ddefnyddiau gwreiddiol priodol i’r ddisgyblaeth).

13. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) cymhwyso’r dulliau a’r technegau y maent wedi’u dysgu i adolygu, atgyfnerthu, estyn a chymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a chychwyn a gweithredu prosiectau

(ii) gwerthuso dadleuon, tybiaethau, cysyniadau haniaethol a data (a all fod yn anghyflawn) yn feirniadol, dod i farn, a fframio cwestiynau priodol i ganfod datrysiad - neu ystod o ddatrysiadau - i broblem

(iii) cyfathrebu gwybodaeth, syniadau a datrysiadau i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr.

14. A bydd gan y deiliaid y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am:

(i) ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol

(ii) wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau cymhleth nad oes modd eu rhagweld

(iii) y gallu angenrheidiol i ddysgu er mwyn ymgymryd â rhagor o hyfforddi o natur broffesiynol neu gyfatebol.

Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 7: Gradd Meistr Trwy Gwrs / Diploma Uwchraddedig / Tystysgrif Uwchraddedig

15. Bydd llawer o’r astudio a wneir ar y lefel hon wedi bod ar y blaen, neu wedi’i oleuo gan y syniadau diweddaraf mewn disgyblaeth academaidd neu broffesiynol. Bydd myfyrwyr wedi dangos gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth a byddant yn deall sut mae ffiniau gwybodaeth yn cael eu hymestyn drwy ymchwil. Byddant yn gallu ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a byddant yn dangos gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys. Bydd ganddynt y nodweddion sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth mewn amgylchiadau sy’n galw am farn gadarn, cyfrifoldeb bersonol a menter mewn amgylcheddau proffesiynol cymhleth nad oes modd eu rhagweld.

16. Mewn llawer o achosion, mae graddau Meistr Trwy Gwrs yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cychwyn ar ymchwil, er enghraifft drwy Radd Meistr trwy Ymchwil neu radd MRes.

17. Caiff dyfarniadau ar y lefel hon eu gwneud i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:

(i) dealltwriaeth systematig o wybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth yn arwain y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu arfer proffesiynol dan sylw neu’n cael eu harwain ganddo

(ii) dealltwriaeth gyfansawdd o dechnegau sy’n gymwys i’w hastudiaethau eu hunain neu ysgolheictod uwch

(iii) gwreiddioldeb yn y modd y caiff gwybodaeth ei chymhwyso ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r modd y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth

(iv) dealltwriaeth gysyniadol sy’n caniatáu i’r myfyriwr wneud y canlynol:

  • gwerthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth yn feirniadol
  • gwerthuso methodoloegau a datblygu dadansoddiadau ohonynt a, lle bo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.

18. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn, a chyfathrebu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr

(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithio’n annibynnol wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol

(iii) parhau i gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.

19. A bydd gan y deiliaid y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am:

(i) ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol

(ii) wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld

(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sydd ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

Graddau Ymchwil: Meini Prawf ar gyfer dyfarnu Gradd PhD (gan gynnwys PhD yn seiliedig ar ymarfer)

20. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol i ddysg ac i roi tystiolaeth o astudio systematig a’r gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o’r fath â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y maes.  Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni’r canlynol:

(i) creu a dehongli gwybodaeth newydd, trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, sydd o ansawdd sy’n bodloni adolygiad cymheiriaid, sy’n estyn ffiniau’r ddisgyblaeth ac sy’n teilyngu cyhoeddi neu gynhyrchu

(ii) caffael a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen disgyblaeth academaidd neu faes o ymarfer proffesiynol

(iii) y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y ddisgyblaeth, ac addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau na ragwelwyd mohonynt

(iv) dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac archwilio academaidd uwch.

21. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu mynegi eu syniadau a’u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr

(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithredu’n annibynnol i gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol

(iii) parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu’n sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.

22. A bydd deiliaid wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil sy’n cyflenwi’r nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, sef:

(i) arfer menter a chyfrifoldeb personol

(ii) gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oedd modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol

(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

23. Wrth farnu teilyngdod y gwaith a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd PhD, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon a chwmpas gwaith y mae’n rhesymol ddisgwyl i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod o ddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio amser llawn, neu astudio rhan amser cyfatebol.

24. Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch).

Meini Prawf ar gyfer dyfarnu PhD drwy Weithiau a Gyhoeddwyd

25. Mae’r meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau a Gyhoeddwyd yr un fath â’r rheini a sefydlwyd ar gyfer Gradd PhD. Gellir diffinio gweithiau a gyhoeddwyd fel gweithiau sydd yn y parth cyhoeddus neu sydd o leiaf wedi eu derbyn i’w cyhoeddi (cyhyd â bod yr ymgeisydd yn gallu darparu prawf digonol fod hyn yn wir). Ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fel rheol fod wedi’u cyhoeddi dros ddeng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.

26. Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch.

Meini Prawf ar gyfer dyfarnu y Ddoethuriaeth Broffesiynol

27. Bydd y meini prawf ar gyfer y Ddoethuriaeth Broffesiynol yr un fath â’r rhai a sefydlwyd ar gyfer gradd PhD ac eithrio’r ffaith y gall y cyfraniad fod at ddysg neu at faes ymarfer proffesiynol ac y gall arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn yr ymgeisydd.

28. Wedi cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Meini Prawf ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil ac LLM drwy Ymchwil

29. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Athro mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth a/neu yn gyfraniad gwreiddiol i wybodaeth. Dyfernir Graddau Ymchwil Meistr i fyfyrwyr sydd wedi dangos:

(i) dealltwriaeth systematig o wybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediad newydd, a bydd y rhain yn cynnwys neu wedi’u goleuo gan elfennau blaenllaw o’r ddisgyblaeth academaidd, y maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol

(ii) dealltwriaeth gyfansawdd o dechnegau sy’n gymwys i’w hymchwil neu eu hysgolheictod uwch

(iii) gwreiddioldeb yn y modd y cymhwysir gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r modd y mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth

(iv) dealltwriaeth gysyniadol sy’n caniatáu i’r myfyriwr:

  • werthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol o fewn y ddisgyblaeth
  • werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt a lle bo’n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.

30. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:

(i) ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwr

(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithio’n annibynnol i gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol

(iii) parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.

31. A bydd deiliaid wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil sy’n cyflenwi’r nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, sef:

(i) arfer menter a chyfrifoldeb personol

(ii) gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oedd modd eu darogan

(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.

32. Ar ôl cwblhau MPhil neu LLM drwy Ymchwil, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 7, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch.