1.2 Systemau Sicrwydd Ansawdd

1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymfalchïo yn safon uchel y cyfleoedd dysgu ac addysgu y mae’n eu cynnig i’w myfyrwyr. Yn sail iddynt ceir systemau sicrhau ansawdd effeithiol a ddatblygwyd dros flynyddoedd lawer ac a fireiniwyd ar sail canllawiau a fframweithiau yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA). Mae pedair prif swyddogaeth i systemau sicrhau ansawdd y Brifysgol:

(i) Sicrhau safon ac ansawdd ein cynlluniau astudio, eu bod yn ddilys ac yn gyfredol, a’u bod yn cael eu cynllunio, eu dysgu, eu haddasu a’u monitro mewn modd priodol

(ii) Cynnal y safonau uchaf mewn ansawdd academaidd a gwelliant parhaus, gan gydymffurfio â’r disgwyliadau a amlinellir yng Nghod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch

(iii) Gwella ansawdd trwy annog hunanfyfyrio beirniadol yn barhaus, fel ein bod yn chwilio o hyd am ffyrdd o wella ansawdd y profiad a gynigiwn i fyfyrwyr

(iv) Bod yn sail i ddatblygiad strategol y cynlluniau a’r disgyblaethau academaidd yr ydym yn eu cynnig.

2. Mae Cod Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch yn rhoi man cychwyn cyffredin i’r holl ddarparwyr addysg uwch o ran gosod, disgrifio a sicrhau safonau academaidd eu dyfarniadau a’u rhaglenni addysg uwch, ynghyd ag ansawdd y cyfleoedd dysgu y maent yn eu darparu. Y Cod yw’r cyfeirbwynt craidd a ddefnyddir yn holl weithgarwch adolygu’r ASA: https://www.qaa.ac.uk/quality-code

3. Mae’r Fframweithiau ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yn y DU yn darparu cyfeirbwyntiau pwysig ar gyfer darparwyr addysg uwch, ac yn eu cynorthwyo wrth iddynt osod a chynnal safonau academaidd. Mae’r fframweithiau yn ganolog i’r Disgwyliad ym Mhennod A1, ‘The National Level’, o God Ansawdd y DU ar gyfer Addysg Uwch fod cyrff dyfarnu graddau yn defnyddio cyfeirbwyntiau allanol ar lefel y DU ac yn Ewropeaidd er mwyn sicrhau safonau academaidd trothwy ledled y sector addysg uwch: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf

4. Mae Datganiadau Meincnodi Pwnc yn rhan o’r Cod Ansawdd. Maent yn amlinellu disgwyliadau o ran safonau graddau mewn amrywiaeth o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio’r hyn sy’n rhoi unoliaeth a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio’r hyn y gellir ei ddisgwyl gan raddedigion o ran y medrau a’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn meithrin dealltwriaeth neu allu yn y pwnc: https://www.qaa.ac.uk/quality-code/subject-benchmark-statements

5. Mae’r ASA hefyd yn darparu nifer o ganllawiau eraill, er enghraifft yn ymdrin â meysydd megis dyfarnu credydau academaidd, cyfwerthedd cymwysterau ym mhob un o wledydd y DU, a sut mae oriau cyswllt ac asesu yn cyfrannu tuag at ansawdd eich addysg.