Swyddogaeth Darllenydd/Amanuensis yn yr arholiadau

Swyddogaeth Darllenydd yn yr arholiadau

Y Darllenydd yw’r cyfrwng cyfathrebu rhwng y myfyriwr a’r papur arholiad. Nid oes raid i’r Darllenydd ddehongli’r papur arholiad i’r myfyriwr, ond yn hytrach bod yn ‘gyfrwng darllen’ yn unig. Cyfrifoldeb y myfyriwr yw dehongli neu ddeall unrhyw agwedd ar y papur arholiad.

Mae’n rhaid i ddarllenydd:

1) ddeall anghenion y categorïau perthnasol o fyfyrwyr a pharchu hawl y myfyrwyr i gyfrinachedd
2) bod yn brydlon, amyneddgar a dibynadwy
3) bod yn ddarllenwr cymwys a chanddo/chanddi lais clir a chroyw
4) gallu darllen ar gyflymder darllen arferol
5) gallu darllen y cyfarwyddiadau a’r cwestiynau, y geiriau ar ddiagramau, mapiau ac ati.
6) darllen mor aml ag y mae’r myfyriwr yn gofyn i chi wneud

Ar ddiwrnod yr arholiad:

Mae’n rhaid i’r darllenyddion gyrraedd 20 munud cyn dechrau’r arholiad i drafod â’r myfyriwr sut y bydd y myfyriwr yn defnyddio’r Darllenydd ac i drefnu â’r myfyriwr beth yn union y gellir ei wneud yn ystod yr arholiad a beth na ellir ei wneud.

Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n defnyddio Darllenydd yn gyfarwydd â’r prosesau sydd ar waith yn ystod yr arholiadau. Mae hefyd yn debygol y bydd gan fyfyriwr sy’n defnyddio Darllenydd amser ychwanegol yn yr arholiad (fel rheol 15 munud am bob awr o’r arholiad) a bydd yn rhaid i’r Darllenydd aros gyda’r myfyriwr hyd nes eu bod wedi gorffen y papur.

NI chaiff Darllenydd:

1) ddarllen y cwestiynau cyn darllen cyfarwyddiadau’r arholiad
2) egluro ystyron geiriau neu gwestiynau
3) rhoi gwybodaeth ychwanegol am unrhyw destun neu fanylion graffigol e.e. diagramau
4) gwrthod darllen rhywbeth sydd wedi’i ysgrifennu er eich bod efallai wedi’i ddarllen sawl gwaith yn barod
5) darllen unrhyw adran o’r papur os nad oes gofyn i chi wneud hynny


Swyddogaeth Amanuensis mewn arholiadau

Swyddogaeth Amanuensis:

• [    Byddwch hefyd yn ymgymryd â rôl Darllenydd  ]

• Ni fyddwch yn rhoi cymorth ffeithiol neu’n rhoi awgrymiadau i’r ymgeisydd
• Ni fyddwch yn rhoi cyngor i’r ymgeisydd ar sut i drefnu’r ymatebion
• Bydd gennych lawysgrifen glir/ddealladwy a’r gallu i atalnodi a sillafu’n gywir
• Ni fyddwch yn cywiro gwallau gramadegol yr ymgeisydd
• Byddwch yn ysgrifennu’r atebion yn union fel y cânt eu harddweud a byddwch yn tynnu llun diagramau, mapiau a graffiau yn unol â chyfarwyddiadau’r ymgeisydd yn unig
• Byddwch yn gofyn i’r ymgeisydd sillafu termau technegol ac unrhyw eiriau arbenigol

NI ddylai Amanuensis:

•       newid cynnwys ateb a roddwyd gan ymgeisydd mewn UNRHYW ffordd
•       rhoi unrhyw arwydd i’r myfyriwr o briodoldeb eu hateb
•       rhoi cyngor i’r myfyriwr ynghylch pryd i symud ymlaen i’r cwestiwn nesaf.