Rheol Sefydlog 22

Graddau Doethuriaethau Hŷn

Cyfarwyddiadau Cynnal Arholiadau ar gyfer Graddau DLitt, DSc, DScEcon a LLD

1. Dylai ymgeiswyr am raddau DLitt, DSc, DscEcon a LLD anfon at y Dirprwy Is-Ganghellor dri chopi o’r gweithiau y dymunant eu cyflwyno i’w cloriannu gan y Brifysgol. Gellir anfon y gweithiau at y Dirprwy Is-Ganghellor ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn academaidd, ond ni ddylai ymgeiswyr y derbynnir eu gwaith ar ôl 31 Ionawr yn unrhyw flwyddyn fel arfer ddisgwyl cael eu derbyn i’w gradd y flwyddyn honno.

2. Caiff yr holl weithiau a gyflwynir gan ymgeisydd am un o’r graddau uchod eu hystyried gan Bwyllgor Mewnol yn cynnwys:

(i) Yr Is-Ganghellor, a

 (ii) dau berson arall a benodir gan yr Is-Ganghellor (fel arfer un Dirprwy Is-Ganghellor ac uwch academydd mewn pwnc perthnasol).

3. Os cânt eu bodloni fod achos prima facie wedi ei sefydlu i gyfeirio’r gweithiau i’w harholi’n fanwl am y radd dan sylw, bydd y Pwyllgor Mewnol yn penodi tri asesydd. Os nad yw’r Pwyllgor Mewnol yn cael ei fodloni bydd yn rhoi gwybod i’r Dirprwy Is-Ganghellor a fydd yn hysbysu’r ymgeisydd: caiff dwy ran o dair o’r ffi ei had-dalu i’r ymgeisydd, ynghyd â thri chopi o’r gweithiau dan sylw.

4. Rhaid i aelodau’r Pwyllgor Mewnol a’r aseswyr fod yn gwbl annibynnol ar yr ymgeisydd ac ar ei gilydd. Rhaid i aseswyr ddatgan eu buddiant:
(i) os ydynt yn bwriadu cyflogi’r ymgeisydd eu hunain
(ii) os ydynt yn bwriadu cyhoeddi ar y cyd â’r ymgeisydd
(iii) os ydynt yn gysylltiedig, neu wedi bod yn gysylltiedig, â’r ymgeisydd mewn perthynas bersonol agos o unrhyw fath
(iv) os oes ganddynt berthynas bersonol, broffesiynol neu gytundebol agos ag unrhyw aelod arall o’r pwyllgor arholi.

5. Rhaid i bob un o’r tri asesydd a benodir anfon at y Dirprwy Is-Ganghellor adroddiad manwl ac annibynnol ar gwmpas, safon a gwreiddioldeb y gweithiau, a nodi a yw ef/hi o’r farn y dylid dyfarnu gradd.

6. Caiff adroddiadau’r tri asesydd eu cyflwyno gan y Dirprwy Is-Ganghellor i’r Pwyllgor Mewnol a fydd yn cyflwyno adroddiad, gan gynnwys argymhelliad ynglŷn â dyfarnu’r radd, i’r Bwrdd Graddau Ymchwil. Y Bwrdd Graddau Ymchwil a fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol ar yr ymgeisyddiaeth.

7. Wrth baratoi adroddiad ar yr ymgeisyddiaeth am y ddoethuriaeth, gofynnir i ganolwyr ystyried y cwestiynau canlynol, sef:

(i) A yw gwaith yr ymgeisydd yn dangos meistrolaeth ar y pwnc?

(ii) A oes i’r gwaith wreiddioldeb a theilyngdod haeddianol o’r radd y’i cyflwynwyd ar ei chyfer?

(iii) A yw’r gwaith yn gwneud cyfraniad sylweddol i hybu gwybodaeth yn y fath fodd ag  i wneud yr ymgeisydd yn arbenigwr cydnabyddedig yn y maes dan sylw?

(iv) A ellir ystyried bod yr ymgeisydd yn deilwng i dderbyn y radd?

(Byddai o gymorth sylweddol i’r Brifysgol wrth ystyried y gwaith yn derfynol pe byddai’r aseswyr, wrth ateb y cwestiynau hyn, yn mynegi’n gryno y prif resymau am eu penderfyniadau).

8. Caiff aseswyr eu hatgoffa mai diben gofyn am waith cyhoeddedig yw sicrhau i’r gwaith a gyflwynir fod ar gael i’w feirniadu gan arbenigwyr perthnasol, a gall aseswyr anwybyddu unrhyw ran o’r gwaith a gyflwynir os na fu’r gwaith, yn eu barn hwy, ar gael i’w feirniadu naill ai am nad oedd ar gael yn hawdd  neu oherwydd ei fod wedi ei gyflwyno am y radd yn rhy fuan ar ôl ei gyhoeddi.

9. Bydd adroddiadau ysgrifenedig yr aseswyr yn cael eu gosod yn archifau’r Brifysgol.