2. Eiddo Deallusol

Dylai myfyrwyr nodi mai hwy gan amlaf sy'n berchen ar eiddo deallusol y maent yn ei greu'n annibynnol ar unrhyw un arall yn ystod eu hastudiaethau a'u hymchwil, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau ym Mholisi Eiddo Deallusol Cyffredin Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor. Mae'r Polisi hwn hefyd yn egluro safbwynt y Brifysgol mewn perthynas â chreu, perchnogaeth, diogelu a manteisio ar Eiddo Deallusol ynghyd â threfniadau ar gyfer staff a myfyrwyr a'u hymrwymiadau. Mae’r polisi i’w weld yma: https://www.aber.ac.uk/cy/rbi/business/intellectual-property/