Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce drwy Ddulliau Electronig

Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Canllawiau ar gyfer Cynnal Arholiadau Viva Voce trwy Ddull Electronig (Viva Voce Ar-lein)

Egwyddorion Cyffredinol

1. Ar ôl trafod â staff a myfyrwyr, barn y Brifysgol yw mai’r ffordd orau i gynnal y viva voce, sef yr arholiad llafar sy’n angenrheidiol ar gyfer pob gradd ymchwil, yw gwneud hynny wyneb yn wyneb, a chael pawb yn bresennol gyda’i gilydd yn Aberystwyth. Mae hyn yn sicrhau uniondeb yr arholiad ac yn creu’r amgylchiadau mwyaf ffafriol i fyfyrwyr gyfiawnhau eu gwaith. Mae’r arholiad llafar yn fwy na mater o ffurf, a gall gael effaith sylweddol ar ganlyniad yr asesiad.

2. Cyn cyfnod Covid-19, dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateid defnyddio arholiadau llafar electronig, yn ddibynnol ar rai amodau a chyda chymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion a chaniatâd ysgrifenedig pawb sy’n ymwneud â’r arholiad.  Yn ystod cyfnod Covid-19, oherwydd anhawster cynllunio a chynnal arholiadau llafar a olygai teithio i Aberystwyth, trefnu mesurau priodol iechyd a diogelwch i weithgareddau wyneb yn wyneb, a phwysigrwydd arholi’n amserol, daeth cynnal arholiadau llafar ar-lein yn ddewis diofyn.

3. Ar y cyfan, bu’r profiad o gynnal yr arholiadau hyn ar-lein yn un cadarnhaol. Daeth staff a myfyrwyr yn fwy cyfarwydd â’r dechnoleg ac mae manteision i’w defnyddio, am eu bod yn torri ar gostau ariannol ac amgylcheddol ac yn rhoi mwy o gyfle i gynnal yr arholiadau’n brydlon a chyda’r arholwr allanol mwyaf addas. Er bod y Pwyllgor Graddau Ymchwil o’r farn mai arholiad llafar wyneb yn wyneb yw’r profiad gorau, y mae’n fwy parod i ganiatáu cynnal yr arholiadau ar-lein os yw pawb sydd yn rhan o’r drefn yn hapus â hynny. Mae angen cymeradwyaeth Pennaeth Ysgol y Graddedigion o hyd, a rhaid cyflwyno achos o blaid cynnal yr arholiad ar-lein, ond does dim rhaid i’r amgylchiadau fod yn rhai eithriadol.

4. Gellir gwneud cais i gynnal arholiad llafar ar-lein os mai hynny sydd orau gan bawb ac nad oes gan unrhyw un bryder am y dull o’i gynnal ac:

I. Os yw costau, teithio neu faterion eraill yn gwneud yr arholiad electronig yn fwy manteisiol, yn enwedig lle byddai’n anodd cynnal arholiad wyneb yn wyneb, neu pe byddai oedi annerbyniol fel arall.

II. Os bu’n rhaid rhoi’r gorau i drefniadau i gynnal arholiad llafar wyneb yn wyneb oherwydd amgylchiadau annisgwyl, megis tywydd gwael iawn neu salwch. Byddai’r arholiad yn cael ei ohirio fel arfer, ond byddai defnyddio dull electronig yn ddewis gwell na rhoi’r myfyriwr mewn sefyllfa anfanteisiol iawn.

III. Os oes dyfarniad ar y cyd neu ddyfarniad deuol yn cael ei gynnig a bod staff o’r partner brifysgol yn ymuno yn yr asesiad.

Technoleg

5. Microsoft Teams yw’r brif dechnoleg sy’n cael ei chynnal yn y Brifysgol a dyma’r hyn a ddefnyddir i arholiadau llafar fel arfer. Os nad yw hi’n bosibl defnyddio Teams, er enghraifft os yw myfyriwr yn byw mewn gwlad lle nad oes modd defnyddio Teams, gellid defnyddio technoleg arall, er enghraifft Zoom, ond nid oes modd i’n Gwasanaethau Gwybodaeth roi cymorth technegol i hyn yn yr un ffordd. Os oes data neu bynciau sensitif yn cael eu trafod, mae diogelwch yn ystyriaeth bwysig. Mae’n hanfodol bod y dechnoleg yn ddibynadwy er mwyn gallu cynnal yr arholiad yn ddidrafferth. Efallai y byddwn yn ymgynghori â Gwasanaethau Gwybodaeth i sicrhau bod technoleg benodol yn dderbyniol.

Cynnal yr Arholiad

6. Staff y Gofrestrfa Academaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn trefnu manylion a dyddiad yr arholiad. Anfonir apwyntiad calendr at bawb sy’n rhan o’r arholiad ar gyfer ymuno â’r cyfarfod. Gall yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu gynorthwyo yn hyn o beth.

7. Rhaid gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr arholiad yn cael ei gynnal yn hwylus heb i unrhyw beth dorri ar ei draws, ac mor debyg â phosibl i gyfarfod wyneb yn wyneb. Mae angen ystyried y pwyntiau ymarferol canlynol wrth drefnu arholiad llafar electronig:

I. Polisi PA yw peidio â recordio arholiadau llafar a rhaid dweud hyn yn glir wrth bawb sy’n rhan o’r arholiad. Rhaid diffodd unrhyw adnodd recordio neu, gan na ellir gwneud hynny yn Teams heb gyfyngu’r gallu i rannu sgrin, rhaid i’r Cadeirydd wneud yn sicr nad yw’r adnodd recordio ymlaen (bydd yn gwbl amlwg os yw’r adnodd recordio ymlaen).

II. Dylai pob un ganfod lleoliad ac adnoddau addas lle gallant gael cyswllt o ansawdd da trwy gydol yr arholiad, lle gallant fod yn gyfforddus, a lle na fydd unrhyw un yn torri ar eu traws. Os nad yw hyn yn bosib o’u cartrefi na’u swyddfeydd, dylent ystyried defnyddio adnoddau addas mewn prifysgol arall, swyddfeydd y Cyngor Prydeinig, neu leoliadau cydnabyddedig eraill. Yn aml, mewn lleoliadau o’r fath fe fydd staff technegol profiadol sy’n siarad Cymraeg neu Saesneg mewn amgylchiadau diogel. Gall Gwasanaethau Gwybodaeth roi cyngor am y dewisiadau sydd ar gael. Gall myfyrwyr ddefnyddio adnoddau PA. Os yw myfyrwyr yn gwneud cais i gymryd rhan o bell mewn arholiad llafar y gellid bod wedi’i gynnal yn Aberystwyth, rhaid iddynt dalu unrhyw gostau sy’n codi, er enghraifft pris llogi ystafell.

III. Rhaid i ansawdd y llun a’r sain fod yn ddigon da i gynnal sgwrs ac, os mai’r myfyriwr sy’n ymuno o bell, i fod yn sicr y gellir adnabod y myfyriwr a sicrhau bod y myfyriwr cywir yn cymryd yr arholiad. Os nad yw staff yr arholiad yn adnabod yr ymgeisydd rhaid gwahodd aelod o staff i gadarnhau bod y myfyriwr iawn yn yr arholiad.

IV. Os yw’r ymgeisydd yn ymuno o bell ac os nad oes aelod o’r bwrdd arholi nac arolygwr yn yr un lleoliad, rhaid atgoffa’r myfyriwr y dylai fod ar ei ben/phen ei hun a, chyn belled â phosibl, rhaid i weddill y rhai sy’n rhan o’r arholiad allu gweld hyn yn glir.

V. Er y gall trafferthion munud olaf olygu bod rhaid gwneud cais am ddefnyddio dulliau electronig, yr arfer gorau yw profi’r system ymlaen llaw - yn ddelfrydol o leiaf wythnos ymlaen llaw - er mwyn gallu datrys unrhyw drafferthion ac er mwyn i bawb ymgyfarwyddo cymaint ag y gallant â’r dechnoleg.

VI. Mae amrywiadau sylweddol rhwng hyd gwahanol arholiadau llafar ac mae rhannau o’r arholiad na fydd yr ymgeisydd yn cymryd rhan ynddynt. Rhaid cadw hyn mewn cof wrth drefnu sesiwn er mwyn gallu cynnal cyswllt parhaus cyhyd â bod angen ond hefyd er mwyn gallu tewi’r cyswllt os oes angen. Ni ddylai’r ymgeisydd allu clywed y trafodaethau preifat rhwng yr arholwyr. Gellid anfon gwahoddiadau calendr ar wahân, er mwyn gwneud yn sicr nad yw’r myfyriwr yn bresennol yn nhrafodaethau preifat y panel.

VII. Cyn belled â phosibl dylai cymorth technegol fod wrth law ar gyfer unrhyw drafferthion a allai godi, naill ai yn bersonol yn y lleoliad neu trwy gyswllt sefydledig dros y ffôn. Yn hyn o beth, rhaid rhoi ystyriaeth i’r gwahanol barthau amser a allai fod yn berthnasol ac i hyd posibl yr arholiad ei hun. Os rhoddir digon o rybudd, efallai y gall GG drefnu i gael staff wrth law ar ddechrau arholiad neu i wirio ymlaen llaw bod y trefniadau’n gweithio.

VIII. Os yw’n debygol y ceir toriadau i’r cyflenwad trydan neu’r cysylltiadau electronig, rhaid ystyried a ddylid cynnal yr arholiad yn electronig. Yn unrhyw amgylchiadau, dylid paratoi cynllun wrth gefn a gwneud yn sicr bod pawb yn gwybod am hyn ymlaen llaw pe byddai’r cyswllt yn torri neu’n dirywio yn ei ansawdd, er mwyn gallu cwblhau’r arholiad cyn gynted â phosibl. Dylai ffôn, a rhifau ffôn pawb, fod wrth law ymhob lleoliad er mwyn i bawb allu ffonio’i gilydd pe byddai angen. Dylai’r Bwrdd Arholi fod yn gallu cadw mewn cyswllt â’r myfyriwr wrth i’r sefyllfa gael ei datrys ac i wneud yn sicr ei f/bod yn aros yn y lleoliad.

IX. Dylid cadw mewn cof y posibilrwydd y gallai’r ymgeisydd dorri’r cyswllt yn fwriadol a rhaid cael cynllun wrth gefn yn ei le ar gyfer hyn. Os sefydlir fod hyn wedi digwydd ac na ellir cwblhau’r arholiad oherwydd hynny, ni roddir cyfle arall i’r myfyriwr gael arholiad llafar ac fe fydd ef/hi yn methu.

X. Rhaid i Gadeiryddion yr arholiadau gadw mewn cof bod yr arholiad yn achlysur a all beri pryder ac y gall y canlyniad beri siom i fyfyrwyr. Byddai’n synhwyrol i ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt rhywun yn lleol i’w cynorthwyo os ydynt yn cymryd rhan o bell.

 

Hydref 2021