7.5 Monitro Ymchwil

Mae'r Brifysgol yn ceisio sicrhau bod cynifer o fyfyrwyr ymchwil â phosibl yn cyflwyno eu traethodau ymchwil ar gyfer eu harholi o fewn eu terfyn amser. Er mwyn gwirio eu bod yn gwneud cynnydd boddhaol ac er mwyn canfod unrhyw anghenion o ran cymorth, mae cynnydd yr holl fyfyrwyr ymchwil yn cael ei fonitro'n flynyddol.  Yn y Cyfadrannau y mae'r monitro'n digwydd yn y lle cyntaf. Bydd myfyrwyr yn llenwi ffurflen fonitro gan amlinellu eu cynnydd hyd yma, unrhyw hyfforddiant a wnaed, a'u cynlluniau ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf. Bydd arolygwyr yn ychwanegu eu sylwadau a bydd y Gyfadran yn asesu'r wybodaeth, fel arfer trwy gyfweld myfyrwyr ynghylch eu hymchwil.

Mae Ysgol y Graddedigion yn cynnull tri chyfarfod ar lefel y Brifysgol gyfan bob blwyddyn, ym mis Gorffennaf, Chwefror a Medi, er mwyn cael adroddiadau gan y Cyfadrannau ynghylch unrhyw faterion sy'n codi yn sgil eu monitro ar fyfyrwyr.  Yn benodol, rhaid i'r holl fyfyrwyr doethuriaeth ddangos cynnydd boddhaol o ran eu hastudiaethau er mwyn cael caniatâd i symud ymlaen i flwyddyn nesaf eu cofrestriad, a rhaid i fyfyrwyr MPhil sydd eisiau uwchraddio i ddoethuriaeth ddangos cynnydd boddhaol cyn y gellir cadarnhau'r uwchraddio. Fel arfer bydd myfyrwyr nad yw eu cynnydd yn foddhaol yn cael cynnig cyfle i adfer y sefyllfa, a byddant yn cael set o dasgau i'w cyflawni o fewn amserlen benodol, cyn i’w cynnydd gael ei adolygu eto. Os bydd eu cynnydd yn parhau i fod yn anfoddhaol, mae'n bosibl y bydd myfyrwyr, dan y Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd, yn cael eu hatal rhag parhau â'u hastudiaethau, neu'n gorfod israddio o ddoethuriaeth i MPhil. Mae'r Argymhelliad i ddiarddel neu israddio i Ffurflen dempled MPhil i'w weld yn Adran 3.13 o'r LlAA: https://www.aber.ac.uk/cy/academic-registry/handbook/taught-schemes/.