7.12 Gweithgareddau Addysgu Uwchraddedig

1. Mae Prifysgol Aberystwyth yn gwerthfawrogi’r cyfraniad y gall myfyrwyr ymchwil uwchraddedig ei wneud i addysgu ac arddangos ar gynlluniau gradd a addysgir, ac mae hefyd yn gwerthfawrogi manteision y gweithgaredd hwn ar gyfer datblygiad gyrfaol a phersonol myfyrwyr ymchwil uwchraddedig. Mae’r Brifysgol hefyd yn cydnabod bod myfyrwyr ymchwil uwchraddedig angen cymorth i gyflawni rolau addysgu’n effeithiol ac i sicrhau profiad cadarnhaol i’r myfyrwyr sy’n cael eu haddysgu.

2. Mae’r Brifysgol wedi cymeradwyo fersiwn o Siarter Cyflogaeth Uwchraddedigion yr NUS/UCU, sy’n cyflwyno’r egwyddorion y dylid eu cymhwyso wrth benodi, cydnabod a chefnogi myfyrwyr ymchwil uwchraddedig sy’n cymryd rhan mewn addysgu. Mae’r Siarter yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.

3. Mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig sy’n ymwneud ag addysgu, arddangos neu rolau dysgu ac addysgu eraill, gael contract cyflogaeth gan Adnoddau Dynol. Dylai natur eu dyletswyddau gael eu nodi’n eglur a dylid cydnabod ar y raddfa sefydledig ar gyfer y gweithgaredd perthnasol.

4. Dylid cyflogi uwchraddedigion ymchwil amser-llawn at ddibenion addysgu am uchafswm o 6 awr yr wythnos, sy’n cynnwys yr amser paratoi a marcio, neu 180 awr mewn blwyddyn academaidd. Ni ddylai dyletswyddau addysgu ymyrryd â gallu’r myfyriwr i gwblhau eu hymchwil yn effeithiol na’u presenoldeb mewn sesiynau datblygu ymchwilwyr.

5. Bydd athrawon ymchwil uwchraddedig yn cyfrannu at gyflwyno modiwlau, fel rheol drwy arddangos neu addysgu seminarau. Mae’n bosibl y bydd athrawon ymchwil uwchraddedig yn darlithio’n achlysurol. Ni ddylent fod yn gyfrifol am gyflwyno’r holl ddarlithoedd nac am gynllun, cynulliad neu weinyddiaeth gyffredinol modiwl.

6. Dylai unrhyw waith marcio ac asesu a wneir gan athrawon uwchraddedig gael ei gymedroli’n fewnol. Bydd unrhyw waith marcio ar gyfer Rhan Dau, sy’n cyfrannu at ganlyniadau gradd, hefyd yn gael ei gymedroli’n allanol yn ôl yr arfer.

7. Dylai uwchraddedigion ymchwil fod yn rhan o’r tîm sy’n cyflwyno modiwl. I alluogi iddynt gyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol, dylent gael y cyngor a’r wybodaeth briodol gan gydlynydd y modiwl a’u hadran am eu rôl o fewn y modiwl, ac am nodau ac amcanion y modiwlau y maent yn eu dysgu a’r cynlluniau gradd y mae’r modiwlau’n cyfrannu atynt.

8. Bydd Ysgol y Graddedigion yn trefnu cyflwyniad cyffredinol i addysgu yn rhan o’i rhaglen gynefino, ac mae’n rhaid i’r holl fyfyrwyr fynychu os ydynt yn ymgymryd â gweithgareddau addysgu. Bydd hefyd yn cynnal sesiynau ar agweddau penodol ar ddysgu ac asesu, a dylai pob myfyriwr ymchwil uwchraddedig eu mynychu os ydynt yn ymwneud â’r meysydd hynny. Bydd yr adrannau/cyfadrannau’n darparu unrhyw hyfforddiant ychwanegol angenrheidiol ar gyfer addysgu disgyblaeth-benodol. Ni ddylai myfyrwyr ymgymryd â gweithgareddau addysgu heb fynychu’r sesiynau hyfforddi priodol.

9. Mae’n rhaid i adrannau/cyfadrannau ddarparu lleoliad ac adnoddau priodol ar gyfer unrhyw waith addysgu a wneir gan fyfyrwyr ymchwil uwchraddedig.

10. Bydd adrannau/cyfadrannau’n sicrhau digon o gymorth a chyfarwyddyd i athrawon ymchwil uwchraddedig, gan gynnwys cyflwyniad i amgylchedd gwaith yr Adran, ymateb i broblemau sy’n codi o’r trefniadau addysgu a monitro effeithiolrwydd addysgu’r athrawon ymchwil uwchraddedig. Dylai athrawon ymchwil uwchraddedig gael mynediad at staff dynodedig sy’n gallu rhoi cyngor ar unrhyw faterion sy’n codi wrth addysgu, boed yn fentoriaid, goruchwylwyr, cynullyddion modiwlau, neu, yn y pen draw, y Cyfarwyddwyr Dysgu ac Addysgu.

11. Dylid cynnig mynediad at weithgareddau datblygu proffesiynol parhaus a gynhelir gan yr Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu (UDDA) i athrawon ymchwil uwchraddedig. Gall y rheini sydd eisiau hyfforddiant ychwanegol a chymhwyster gydnabyddedig wneud cais am y cynllun Addysgu i Uwchraddedigion ym Mhrifysgol Aberystwyth (AUPA), a achredir gan yr AAU ac sy’n cyflwyno statws Cymrawd Cyswllt i’r rhai sy’n cwblhau’n llwyddiannus, a/neu’r cymhwyster TUAAU sy’n cyflwyno statws Cymrawd o’r Academi Addysg Uwch (mae ddau gynllun yn amodol ar argaeledd).

12. Bydd y Brifysgol yn darparu yswiriant i indemnio athrawon uwchraddedig rhag atebolrwydd cyfreithiol.