6.3 Cyflwyniad i’r Brifysgol
1. Mae’r Brifysgol yn trefnu gwasanaethau cyflwyno cynhwysfawr i helpu myfyrwyr newydd ddod i arfer â bywyd y Brifysgol. Y prif nodweddion yw:
(i) Cyflwyniad i’r neuaddau a chyfarfodydd â Cynorthwywyr Preswyl;
(ii) Sesiynau croesawu a chymorth a chyngor ynglŷn â Fisa Myfyriwr' i fyfyrwyr tramor;
(iii) Cyfarfodydd ffurfiol a chymdeithasol, yn gynnar yn y sesiwn, â’r staff academaidd;
(iv) Ystod o weithgareddau er mwyn cyflwyno Gwasanaethau Gwybodaeth a sgiliau astudio, gan gynnwys teithiau o’r llyfrgell a chyflwyniadau ar y llyfrgelloedd a TG sy’n benodol i’r pwnc gan lyfrgellyddion pwnc mewn Athrofeydd/Adrannau;
(v) ‘Arwyr’ – cymorth gan gydfyfyrwyr a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr mewn cydweithrediad â Chymorth i Fyfyrwyr;
(vi) Sesiynau arbennig ar gyfer uwchraddedigion newydd;
(vii) Sesiynau i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith;
(viii) Gweithgareddau chwaraeon;
(ix) Cwrs ymgynefino a drefnir gan y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr sy’n cael anhawster i gyfathrebu yn gymdeithasol.