10.25 Apeliadau a Chwynion

1. Gwneir penderfyniadau ynghylch ceisiadau i astudio ar sail academaidd yng nghyd-destun ein hegwyddorion cyffredinol o dderbyniadau teg a chynhwysol, fel yr amlinellir uchod yn 10.2. Mae'r penderfyniadau hyn yn derfynol, ac nid oes sail dros apelio.

2. Os bydd ymgeisydd am wneud cwyn ffurfiol ynghylch unrhyw agwedd ar y gwasanaeth derbyn myfyrwyr, dylai ysgrifennu at:

Cyfarwyddwr Marchnata a Denu Myfywyr

Ebost: enquiries@aber.ac.uk 

Post:
Adeilad Cledwyn
Campws Penglais
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3DD

Bydd y Cyfarwyddwr Marchnata a Denu Myfywyr, neu unigolyn a enwebir, yn cysylltu â’r ymgeisydd ymhen pum diwrnod gwaith ar ôl i’r gŵyn ddod i law.

Os na fydd ymgeisydd yn fodlon â’r ymateb cychwynnol, dylai gysylltu â’r Dirprwy Is-Ganghellor perthnasol:

Dirprwy Is-Ganghellor (Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr)

Ebost: vcostaff@aber.ac.uk

Post:
Y Ganolfan Ddelweddu
Campws Penglais
Prifysgol Aberystwyth
Aberystwyth
Ceredigion
SY23 3BF

Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor yn ceisio ymateb i’r gŵyn ymhen pum diwrnod gwaith o’i derbyn. Os rhagwelir unrhyw oedi, bydd y Brifysgol yn cysylltu â’r ymgeisydd i egluro’r rheswm am yr oedi a nodi pryd y gallant ddisgwyl ymateb i’w cwyn.