Newid Cofrestriad Uwchraddedig

Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus cyn llenwi’r Ffurflen Newid Cofrestriad

Rhaid llenwi’r ffurflen yma pan fo myfyriwr yn newid unrhyw agwedd ar astudio academaidd. Rhaid llenwi’r ffurflen pan weithredir y newid a’i dychwelyd i’r Swyddfa Ansawdd a Chofnodion Academaidd, Adeilad Cledwyn, wedi iddi gael ei llofnodi gan yr holl bobol briodol

1. Newid Cofrestriad dan Rhan A

Rhaid cael llofnod(ion) y staff adrannol perthnasol ar gyfer unrhyw newid dan Rhan A.  Rhaid cael llofnod Cyfarwyddwr yr Athrofa ar gyfer newidiadau yn eich Cynllun Astudio sy’n arwain at newid yn y cymhwyster arfaethedig. Bydd hefyd angen llofnod Cyfarwyddwr yr Athrofa neu Pennaeth Ysgol y Graddedigion os ydych yn newid eich dull astudio.

2. Newidiadau dan Rhan B (Uwchraddedigion Ymchwil)

Rhaid cael llofnod eich goruchwyliwr/wyr ar gyfer unrhyw newidiadau dan Rhan B

3. Newid Modiwl(au) dan Rhan C

Newid Modiwl/iau) y staff adrannol perthnasol bob amser wrth newid cofrestriad modiwl. Rhaid cael llofnod Cyfarwyddwr yr Athrofa hefyd ar gyfer unrhyw newid ar ôl tair wythnos gyntaf y semester.
DALIER SYLW: Ni chaniateir newid cofrestriad modiwl(au) ar ôl diwedd y cyfnod dysgu perthnasol yn y semester hwnnw.