Gweithdrefn ar gyfer cyflwyno Traethodau Ymchwil i’w haroli (PhD, PhDFA, MPHIL, LLM (Ymchwil)

Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Canllawiau ar Gyflwyno Traethodau Ymchwil

 

Bydd y nodiadau canlynol yn eich arwain wrth lenwi’r ffurflen angenrheidiol ar gyfer cyflwyno’ch traethawd ymchwil i’w arholi gan Brifysgol Aberystwyth. Mae rhestr wirio wedi'i chynnwys i'ch helpu i sicrhau eich bod wedi cwblhau'r holl gamau angenrheidiol cyn cyflwyno'ch gwaith.

Mae’r nodiadau hyn yn cynnwys y cynllun gorfodol ar gyfer ffurflen y datganiad a’r gosodiadau y mae'n rhaid ei gynnwys gyda'ch traethawd ymchwil ynghyd â'r Crynodeb. Dylid atgynhyrchu cynnwys y tudalen hwn fel y mae, wedyn ei lenwi, ei lofnodi a'i gynnwys yn y traethawd ymchwil electronig.

Bydd dilyn yr arweiniad yn ofalus ac yn llawn yn caniatáu i'r Brifysgol arholi’ch traethawd ymchwil yn brydlon.

  • Rhestr wirio i ymgeiswyr
  • Canllawiau i ymgeiswyr
  • Canllawiau ar gyflwyno fersiynau electronig o draethodau ymchwil yn orfodol
  • Fformat y Cyflwyniad Electronig
  • Anfon y traethawd ymchwil
  • Y broses arholi
  • Y traethawd ar ôl y viva