Asesiadau Ail-Gynnig yr Haf

Bydd Asesiadau Ailgynnig yr Haf yn cael eu cynnal o:

Ddydd Llun 12 Awst 2024 i dydd Gwener 23 Awst 2024

Bydd myfyrwyr ag arwydd ailsefyll o F, A, H a T yn gymwys i ailsefyll yn asesiadau ailgynnig yn mis Awst (yn ôl y rheoliadau a restrwyd yn y Confensiynau Arholiadau), ond er mwyn gwneud hyn mae'n RHAID i chi gofrestru drwy Eich Cofnod. Bydd cyfle i chi gofrestru ar gyfer asesiadau ailgynnig yr haf o'r dyddiad cyhoeddwyd eich marciau semester dau ar y we am tair wythnos yn unig. Gwelwch yma am sut i gofrestru.

Rhaid i fyfyrwyr sy'n cwblhau cymhwyster ym mis Mai /Mehefin / Gorffennaf ail-sefyll ym mis Awst oni bai bod ganddynt Amgylchiadau Arbennig bryd hynny. Gall myfyrwyr meistr sy'n parhau â'u graddau ar ôl Mehefin / Gorffennaf ailsefyll ym mis Awst neu yn ystod y sesiwn ganlynol. NODER: Rhaid cwblhau asesiadau ailsefyll i gyd erbyn diwedd y sesiwn ganlynol.

Os cofrestrwch i ailsefyll modiwl, a phenderfynu wedyn peidio ag ailsefyll am ba bynnag reswm (er enghraifft, oherwydd cyngor gan eich adran) RHAID ichi dynnu allan or asesiad drwy hysbysu’r Swyddfa Gweinyddu Myfyrwyr, Gofrestrfa Academaidd erbyn 30 Gorffennaf fan bellaf.

Er mwyn tynnu allan rhaid ichi e-bostio pgsstaff@aber.ac.uk gan roi eich manylion myfyriwr a manylion y modiwl rydych yn tynnu allan ohono.

Bydd amserlen a manylion llety ar gael ar lein yn wythnos gyntaf mis Awst.

Os am gymorth ynglŷn â'ch cofrestriad modiwlau ailsefyll cysylltwch a'r Gofrestrfa Academaidd drwy e-bost pgsstaff@aber.ac.uk neu ffoniwch 01970 622354.

Am ragor o fanylion ynglŷn â'r amserlen cysylltwch â'r Swyddfa'r Amserlenni. Ffon 01970 628771, e-bost attstaff@aber.ac.uk

Amserlen Arholiadau