Dysgu, gloywi a mentora i staff

Mae cynnig cyfleoedd ac anogaeth i staff ddysgu a gloywi’r Gymraeg yn rhan bwysig o genhadaeth y Ganolfan. Rydym hefyd yn awyddus i sicrhau bod staff yn cael siawns i ddefnyddio’r Gymraeg, boed yn ddysgwyr neu’n siaradwyr rhugl.

Mae gan y Ganolfan drefn o dalu am ffïoedd staff sy’n mynychu dosbarthiadau Cymraeg a drefnir gan Dysgu Cymraeg. Dilynwch y ddolen isod i weld pa gyrsiau sydd ar gael, pwy sy’n gymwys i fanteisio ar y cynllun hepgor ffïoedd ac am gopi o’r ffurflen gais. Rhaid llenwi ffurflen hawlio ffïoedd a'i hanfon at Ganolfan Gwasanaethau'r Gymraeg er mwyn i'r ffïoedd gael eu talu. NODYN PWYSIG: Bydd disgwyl i chi ad-dalu'r ffïoedd i'r Brifysgol os nad ydych yn cwblhau'r cwrs.
(Mynychu'r 3 thymor gan gynnwys o leiaf un sesiwn o fewn 4 wythnos olaf y cwrs)

Rydym hefyd yn trefnu sesiynau blasu byr yn achlysurol sydd wedi eu teilwra i anghenion adrannau penodol neu i garfannau penodol o staff. Cysylltwch â’r Ganolfan os hoffech ragor o wybodaeth am hyn.

Mae’r Ganolfan yn falch iawn o’i Chynllun Mentora Dysgwyr sydd wedi profi’n llwyddiant ysgubol yn y Brifysgol. Rydym yn cydweithio â’r Ganolfan Datblygu Staff ac Ymarfer Academaidd gyda’r cynllun hwn ac yn trefnu bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn gweithredu fel mentor i ddysgwyr er mwyn rhoi’r cyfle iddynt siarad Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol ac anfygythiol. Ar hyn o bryd mae hyd at 50 pâr yn cyfarfod â’i gilydd yn rheolaidd i gael paned a sgwrs. Mae’r manylion isod yn cynnig mwy o wybodaeth am y cynllun. Cysylltwch â ni os ydych yn ddysgwr sydd â diddordeb yn y cynllun neu yn siaradwr Cymraeg rhugl sy’n awyddus i fod yn fentor.