Croeso Cymraeg Gwaith / Croeso 'Nôl
Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol wedi datblygu cwrs ar-lein 'Croeso Cymraeg Gwaith' ar gyfer dechrau dysgu Cymraeg. Mae’n rhan o’r prosiect Cymraeg Gwaith ac mae’r cwrs am ddim i weithwyr Prifysgol Aberystwyth.
- Cliciwch ar https://learnwelsh.cymru/work-welsh/work-welsh-welcome/
- Cliciwch ‘start learning’
- Cofrestrwch eich manylion
- Dewiswch eich sefydliad – Prifysgol Aberystwyth
- Mwynhewch.
Croeso 'Nôl Cymraeg Gwaith
- Ydych chi'n barod wedi gwneud cwrs 'Croeso Cymraeg Gwaith' ac yn barod i symud ymlaen?
- Ydych chi eisiau dysgu geirfa ehangach i'w defnyddio yn y gwaith?
- Mae cwrs 'Croeso 'Nôl Cymraeg Gwaith' ar gael i chi. - https://dysgucymraeg.cymru/cymraeg-gwaith/cyflwyno-cymraeg-gwaith/cymraeg-gwaith-rhan-2/
- Mewngofnodwch gyda'r un manylion, 'does dim angen cofrestru eto.