Hysbysu

Y mae'n rhaid i'r Comisiynydd Gwybodaeth (Information Commissioner), sy'n gweithio yn Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer SK9 5AF, gadw cofrestr o reolwyr data yn unol â darpariaethau'r Ddeddf. Caiff y data am y rheolwr data sydd ar y gofrestr ei baratoi gan y Comisiynydd ar sail y data a roddir yn y ffurflen gais a lenwir gan y rheolwr data. Y mae'r testun hwn yn cynnwys enw a chyfeiriad y rheolwr data, ynghyd â disgrifiadau bras:

  • o'r data personol sy'n cael ei gadw gan y rheolwr data;
  • pwrpas defnyddio'r data;
  • y dulliau a ddefnyddir i brosesu'r data;
  • y ffynonellau y mae'r rheolwr yn bwriadu eu defnyddio i gael y data;
  • y sawl y gallai'r rheolwr ddymuno datgelu'r data iddynt.

Mae'r Comisiynydd yn sicrhau fod egwyddorion gwarchod data yn cael eu cadw, a gall gyflwyno Hysbysiad Gorfodaeth sy'n cyfarwyddo'r Brifysgol i gymryd camau penodol i gydymffurfio lle'r ystyrir y bu camddefnydd o'r egwyddor. Gellir cyflwyno Hysbysiadau Gorfodaeth hefyd os yw'r Comisiynydd o'r farn fod rheolwr yn meddu ar wybodaeth a fyddai'n datgelu achos o dramgwyddo'r egwyddorion. Y mae'r Swyddfa'r Comisiynydd yn awdurdod erlyn yn ei hawl ei hun, yn archwilio i achosion, a'u dwyn i'r llys.

https://ico.org.uk/