Ms Sonia Urbaniak

Ms Sonia Urbaniak

Rheolwr Prosiect

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Sonia ag YBA ym mis Medi 2021, i ddechrau i ddarparu Gŵyl Ymchwil, ac fe’i penodwyd yn ddiweddarach yn Rheolwr Prosiect i weithio ar Strategaeth CAYC. Cyn hynny bu'n gweithio fel Swyddog Cyfadran yn y Gyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol, ac yn y Swyddfa Gynllunio fel Swyddog Prosiectau Strategol.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn y Swyddfa Gynllunio, hi oedd yn gyfrifol am ddrafftio achosion busnes a chynigion prosiect, yn ogystal â symud prosiectau yn eu blaenau trwy bob cam o'r ddarpariaeth ac adrodd i Weithrediaeth y Brifysgol.

Addysg a phrofiad gwaith

Graddiodd Sonia o Brifysgol Aberystwyth yn 2016 gyda BSc Busnes a Rheolaeth, ac yn 2019 gyda MSc Rheolaeth a Marchnata. Mae hi wedi bod yn gweithio yn y Brifysgol ers 2013 gyda rolau amrywiol yn y Gwasanaethau Preswyl a Chroeso, yr Ysgol Busnes, yr Adran Fathemateg, Swyddfa’r Is-Ganghellor, Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, Cyfadran Busnes a Gwyddorau Ffisegol, a’r Swyddfa Gynllunio.

Profiad a gwybodaeth

Mae ei phrofiad blaenorol yn cynnwys Cymorth Gweinyddol a Phersonol, Rheoli Digwyddiadau, Marchnata Strategol a Digidol, a Rheoli Prosiectau.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Yn ei rôl yn YBA, mae Sonia yn rheoli prosiectau amrywiol trwy bob cam: gwmpasu, cychwyn, darparu a chau prosiectau.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Sonia yn angerddol am achosion amgylcheddol a chyfathrebu gwyddoniaeth. Mae gweithio i gefnogi’r Brifysgol ac academyddion i greu effaith ystyrlon, yn ogystal â dod ag ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn nes at y cyhoedd trwy ddigwyddiadau a gweithgareddau ymgysylltu yn dod â’r boddhad mwyaf iddi.