Glyn Rowlands

Yn dilyn ei radd a’i radd uwch mewn Cemeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth Dr Glyn Rowlands i Gymrodoriaeth ym Mhrifysgol Talaith Iowa am ddwy flynedd, lle arbenigodd mewn cemeg prinfwynau. Parhaodd ei yrfa wyddonol yn Awdurdodau Ynni Atomig y Deyrnas Unedig yn ogystal â’r Unol Daleithiau tan ganol yr wythdegau.

Ar ôl ennill y cymwysterau perthnasol, aeth ati i farchnata a rheoli, gan ddod yn Brif Weithredwr Canolfan Ymchwil Huntingdon (Hunitingdon Life Sciences bellach). Oddi yno symudodd i Medelec, un o is-gwmnïau Vickers, lle enillodd gryn dipyn o brofiad rhyngwladol fel Prif Weithredwr â chyfrifoldeb arbennig am wneud a rhedeg Caffaeliadau Rhyngwladol gydag is-gwmnïau yn Unol Daleithiau America, Japan, Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Sbaen.

Pan oedd tua hanner cant oed, newidiodd gyfeiriad ei yrfa unwaith eto drwy fynd yn ymgynghorwr hunangyflogedig i’r Diwydiant Cyfalaf Mentro gan weithio’n bennaf ar gyfer 3i a Thomson Clive. Tueddai i arbenigo mewn cwmnïau uwch-dechnoleg llai gan weithredu fel Cadeirydd/ cyfranddaliwr. Arweiniodd hyn at ddatblygu cwmni o’r enw Homecraft a dyfodd yn sylweddol, ac a werthwyd yn y pen draw i Smith and Nephew.

Yn ddiweddar, gweithiodd fel cynghorydd i gwmni o San Diego a arbenigai mewn thermometreg, gan drefnu i werthu’r busnes yn llwyddiannus.