Cyn-Fyfyrwyr Ryngwladol
Mae cyn-fyfyrwyr Aber yn byw mewn mwy na 150 o wledydd ym mhob cwr o’r byd. Yn hyn o beth maent yn adnodd gwirioneddal gwych o wybodaeth, cefnogaeth a chydweithrediad lleol. Yn Aber rydyn ni’n ceisio sicrhau bod y potensial hwn ar gyfer cynorthwyo’r naill a’r llall yn cael cefnogaeth i flodeuo a thyfu. Os mai ystyried agoriadau busnes mewn gwlad arall, symud yno i fyw neu i weithio, neu teithio drwodd yn unig, mae Rhwydwaith Rhyngwladol y Cyn-fyfyrwyr wedi ei gynllunio i gynnig cefnogaeth a rhannu gwybodaeth ddefnyddiol.
Buom yn ddigon ffodus i ennill cefnogaeth nifer o gyn-fyfyrwyr unigol a chlybiau lleol o gyn-fyfyrwyr ledled y byd, sy’n barod i fod yn gynrychiolwyr y gall cyn-fyfyrwyr eraill gysylltu â nhw. Rhestrir y rhain isod a gallwch ddarllen mwy amdanynt trwy glicio ar yr enwau. Os ydych yn byw mewn gwlad neu ardal nad yw ar y rhestr ac y byddech yn barod i gynorthwyo twf y rhwydwaith, cysylltwch ag alumni@aber.ac.uk gan y byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych i ychwanegu eich enw at ein rhestr gynyddol o "gonsyliaid anrhydeddus".