Cydnabod Rhoddwyr

Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r holl roddwyr sydd wedi cefnogi hyd yma.

Trwy roi i Apêl yr Hen Goleg rydych yn ymuno â chymuned o roddwyr o bedwar ban byd sy'n chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau dyfodol yr Hen Goleg.

Mae'r cynlluniau i gydnabod rhoddwyr yn sicrhau y byddwch chi, fel rhoddwr, yn rhan o waddol a stori'r Hen Goleg.

Bydd eich cyfraniadau (gan gynnwys Rhodd Cymorth) yn cael eu cydnabod y tu mewn i'r Hen Goleg ar y lefelau a amlinellir isod. 

Os hoffech drafod y dewisiadau o ran cydnabod rhoddwyr mewn rhagor o fanylder, neu drafod sut i wneud rhodd neu addewid i roi i'r apêl, cysylltu â ni.

Pob Rhodd

Bydd pob rhoddwr a enwyd (hynny yw, ac eithrio'r rhai sydd wedi rhoi'n ddienw) yn cael ei gydnabod ar restr o roddwyr ar-lein a fydd hefyd ar gael yn ein Byd o Wybodaeth er mwyn i bawb eu gweld a'u dathlu.

Rhoi £500+

Drwy roi cyfanswm o £500 neu fwy (trwy un rhodd neu roi'n rheolaidd) bydd eich cefnogaeth yn cael ei chydnabod ym mynedfa'r Hen Goleg trwy gyfrwng rhestr anrhydedd ddigidol. Bydd pawb sy'n rhoi dros £500 yn cael tystysgrif bersonol arbennig ac arni ddelwedd o'r Hen Goleg wedi'i dyluni gan yn Ysgol Gelf. 

Rhoi £1,000+

Drwy roi cyfanswm o £1,000 (trwy un rhodd neu roi'n rheolaidd) fe'ch cydnabyddir trwy ysgrifennu eich enw ar feingefnau llyfrau arbennig sydd wedi'u dylunio'n arbennig ac a fydd i'w gweld ar silffoedd is yn yr Hen Lyfrgell.

Rhoi £2,000- £5,000

O roi cyfanswm o £2,000 - £5,000 (trwy un rhodd neu roi'n rheolaidd) fe'ch cydnabyddir trwy ysgythru eich enw ar blât a osodir ar sedd yn un o'r tri phrif ofod yn ein Byd o Wybodaeth.

  • Y Talwrn, sef canolfan ddeialog gyntaf y DU - £5,000
  • Sinema'r Sgrin - £3,000
  • Darlithfa Labordy'r Hynodion - £2,000

Rhoi £5,000 - £10,000

O roi cyfanswm o £5,000 - £10,000 (trwy un rhodd neu roi'n rheolaidd) fe'ch cydnabyddir trwy osod eich enw ar deilsen ar y mur (yn ganolig neu'n fawr o ran maint) yn yr atriwm newydd, a'r teils hynny wedi'u dylunio'n arbennig. Mae'r dyluniadau terfynol eto i'w cadarnhau; cysylltwch â Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, os hoffech drafod gwneud rhodd neu addewid i roi.

datblygu@aber.ac.uk  | 01970 621568

 

Rhoi £10,000 - £50,000

O roi cyfanswm o £10,000 - £50,000 (trwy un rhodd neu roi'n rheolaidd) gellir cydnabod eich rhodd â phlac pwrpasol personol wedi'i osod mewn lleoliad sydd wedi ei gytuno yn un o brif ardaloedd cyhoeddus neu myfyrwyr yn yr Hen Goleg. Rydym yn croesawu trafodaethau hefyd ynghylch sut y gallai placiau a dyluniadau coffáu ein helpu ni i ddangos sut mae'r Hen Goleg wedi cyffwrdd â bywydau cynifer o bobl o bedwar ban byd.

Cysylltwch â Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni, os hoffech drafod gwneud rhodd neu addewid i roi.

datblygu@aber.ac.uk  | 01970 621568

 

 

Rhoi £50,000+

Mewn rhai amgylchiadau arbennig, gellir trafod cyfleoedd i enwi rhai rhannau allweddol o'r adeilad. Gallai hyn gynnwys placiau dwyieithog mawr mewn safleoedd amlwg ac enwi rhai ystafelloedd.  Cysylltwch â'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni os hoffech drafod gwneud rhodd neu addewid i roi.

datblygu@aber.ac.uk | 01970 62 1568