Prifysgol Aberystwyth yn datgan argyfwng hinsawdd ac yn ymrwymo i leihau buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil

25 Tachwedd 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymuno â sefydliadau ledled y byd i ddatgan argyfwng hinsawdd ac wedi cymryd camau i leihau ei buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud yn dilyn cyfarfod o Gyngor y Brifysgol heddiw, ddydd Llun 25 Tachwedd, lle’r amlinellwyd camau a fydd yn gweld y Brifysgol yn cefnogi’r newid i ddyfodol carbon isel.

Mae’r Brifysgol wedi cytuno'n wirfoddol i ymrwymo i darged sero net erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2030-31. Bydd hyn yn adeiladu ar y lleihad mewn allyriadau carbon o 34 y cant mewn termau absoliwt a gyflawnwyd ers 2005/06.

Yn ogystal, mae’r Brifysgol wedi tanlinellu ei hymrwymiad i fuddsoddi cyfrifol ac wedi cymryd camau clir i ddadfuddsoddi o danwydd ffosil.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n falch iawn bod y Brifysgol wedi cymryd y cam heddiw i ddatgan argyfwng hinsawdd a’n bod yn cymryd cama gweithredol i ddadfuddsoddi o danwydd ffosil. Fel prifysgol, mae gennym gyfrifoldeb i gyfrannu at newid parhaol trwy ein hymchwil a'n haddysgu ond hefyd yn y modd y mae'r sefydliad yn cael ei redeg. Drwy weithio gyda'n gilydd fel staff, myfyrwyr a phartneriaid gallwn yrru'r agenda hwn yn ei flaen.”

Ym mis Mehefin 2019 mabwysiadodd y Brifysgol bolisi buddsoddi moesegol. O ganlyniad mae’r Brifysgol yn symud eu buddsoddiadau mewn cronfeydd ecwiti cyhoeddus sydd â'r amlygiad mwyaf i gynhyrchwyr tanwydd ffosil i gronfa sy'n eithrio buddsoddiadau mewn tanwydd ffosil yn benodol erbyn 31 Rhagfyr 2019.

Mae'r gronfa newydd hefyd yn eithrio'r allyrwyr carbon uchaf, ac felly mae ei hôl troed carbon yn sylweddol is na'r farchnad.

Mae ein Cynllun Rheoli Carbon presennol y Brifysgol mewn grym tan 2020-21 a bydd Strategaeth Gynaliadwyedd newydd ar gyfer Prifysgol Carbon Niwtral yn cael ei datblygu unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn diffinio cwmpas targed carbon niwtral y sector gyhoeddus.

Mae’r Brifysgol hefyd yn sefydlu Grŵp Gweithrediadau Cynaliadwyedd, gan gynnwys diffinio amcanion y Grŵp fel bod y rhanddeiliaid cywir yn bresennol. Y bwriad yw cynnal cyfarfod cyntaf y Grŵp Gweithredol ym mis Ionawr 2020.

Mae'r penderfyniad heddiw yn cefnogi gwaith y Brifysgol sydd eisoes ar y gweill i leihau ei hallyriadau carbon gan gynnwys datblygu contract perfformiad ynni gwerth £2M trwy fframwaith RE:FIT ac astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer system solar wifren breifat 2-3MW.

Mae’r Brifysgol yn rhan o grŵp ehangach o 20 o brifysgolion sydd wedi ymrwymo i gytundeb ynni gwyrdd, gan leihau ein hallyriadau a'n hôl-troed carbon yn rhan o gytundeb prynu pŵer cyfun.

Aberystwyth yw’r brifysgol gyntaf yn y byd i ennill statws Prifysgol di-blastig ac ym mis Hydref eleni gwnaethpwyd addewid i leihau’r defnydd o blastig untro yn barhaus.

Mae’r cyhoeddiad hefyd yn cydnabod gwaith arbenigwyr o safon byd ym Mhrifysgol Aberystwyth mewn adrannau megis IBERS a Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear sy'n ymgymryd â gwaith arloesol ar ddewisiadau amgen planhigion yn lle tanwydd ffosil, gan ddatblygu mathau newydd o gnydau sy'n ffynnu mewn amodau amgylcheddol heriol a deall sut mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein planed.

Ym mis Medi 2020, bydd y Brifysgol yn lansio rhaglenni israddedig newydd i gefnogi cenhedlaeth newydd fydd yn parhau i arloesi ac arwain y ffordd ym maes datblygu cynaliadwy.