‘Llwyddiant ysgubol’ Prifysgol Aberystwyth yng ngwobrau Cymraeg

16 Gorffennaf 2020

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dathlu wedi i’w darlithwyr ennill bron pob un wobr am ragoriaeth mewn addysg cyfrwng Cymraeg eleni.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai darlithwyr Prifysgol Aberystwyth yw tri o’r pedwar enillydd eu gwobrau Darlithwyr Cysylltiol ar gyfer 2019/20.

Enillydd y wobr am Hwyluso Addysg Cyfrwng Cymraeg yw’r Athro Rhys Jones o Brifysgol Aberystwyth a ddaeth i’r brig eleni am ei gyfraniad sylweddol dros gyfnod o amser ym maes Daearyddiaeth a’r effaith cadarnhaol y mae hyn wedi’i gael ar y pwnc o fewn i’r sefydliad ac yn genedlaethol.

Wrth dderbyn y wobr meddai’r Athro Rhys Jones:

“Rwy’n falch iawn i dderbyn y wobr hon. Trawsffurfiwyd addysg cyfrwng Cymraeg mewn addysg uwch dros yr ugain mlynedd ddiwethaf o ganlyniad i gefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ynghyd â buddsoddiad gan brifysgolion unigol, ac mae wedi bod yn bleser ac yn anrhydedd i mi i fod yn rhan o’r ‘siwrne’ gyffrous hon.

“Diolchaf hefyd am gefnogaeth fy nghyd-weithwyr yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, ac am frwdfrydedd yr hoff staff cyfrwng-Cymraeg sy’n dysgu ac yn ymchwilio ym maes Daearyddiaeth a’r Amgylchedd ledled Cymru. Bu eu hymdrechion hwy yn sail i greu maes astudio yn Naearyddiaeth a’r Amgylchedd sydd gyda’r mwyaf dwyieithog o’r holl bynciau a astudir mewn Addysg Uwch.”

Mae’r Athro hefyd yn rhan o dîm o Brifysgol Aberystwyth sy’n un o ddau enillydd yn y categori Adnodd Cyfrwng Cymraeg gorau eleni. Crewyd y Gwerslyfr Daearyddiaeth, ‘Astudio a Dehongli’r Byd a’i Bobl’ ar y cyd rhwng Yr Athro Rhys Jones, Dr Marie Busfield, Dr Hywel Griffiths, Dr Cerys Jones, a Dr Rhys Dafydd Jones. Mae’r adnodd yn benodol i faes arbennig a’r adnodd cyntaf o’i fath drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n pontio rhwng y sector ôl-16 ac addysg uwch.

Wrth dderbyn y wobr am yr adnodd gorau ychwanegodd yr Athro Rhys Jones:

“Rydym ni, y tîm a ysgrifennodd y gwerslyfr hwn, yn falch iawn i dderbyn y wobr hon. Hoffem ddiolch am gefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer y gyfrol a hefyd am amynedd staff y Coleg wrth i ni ei chwblhau! Gobeithiwn y bydd y gwerslyfr yn gyfrwng i gyffroi myfyrwyr Safon Uwch a phrifysgol ac i ennyn diddordeb pellach ynddynt mewn pwnc sydd mor berthnasol i nifer o heriau sy’n wynebu’r byd ac sy’n paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfaoedd amrywiol tu hwnt.”

Yr adnodd arall ddaeth i’r brig yn y categori Adnodd Cyfrwng Cymraeg gorau eleni yw Gwerddon Fach a chyflwynwyd y wobr i’r cyd-olygyddion Dr Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths o Brifysgol Aberystwyth. Mewn partneriaeth â Golwg 360 mae Gwerddon Fach yn rhoi cyfle i fyfyrwyr, academyddion gyrfa gynnar ac ymchwilwyr mwy profiadol i rannu gwybodaeth am eu hymchwil ac fe’i gwobrwywyd am fod yn adnodd rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi myfyrwyr yn eu hastudiaethau.

Wrth dderbyn y wobr meddai Dr Anwen Jones o Brifysgol Aberystwyth:

“Fel golygyddion Gwerddon, rydym wrth ein bodd i dderbyn y wobr hon gogyfer Gwerddon Fach. Menter a arweiniwyd gan Hywel Griffiths ar y cyd gyda Golwg oedd Gwerddon Fach er mwyn ehangu ar y drafodaeth ysgolheigaidd cyfrwng Cymraeg sydd bellach wedi ei gwreiddio yn y fam gyfnodolyn, Gwerddon. Y gobaith oedd y byddai hi yn agor cil y drws ar ddatblygiadau a thrafodaethau cyffrous ym maes ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg i ddisgyblion chweched dosbarth, myfyrwywr a chynulleidfaoedd lleyg.

“Mae derbyn y wobr hon yng nghategori Adnodd Cyfrwng Cymraeg Gwobrau’r Darlithwyr Cysylltiol yn brawf i ni lwyddo yn ein hamcan. ​Hoffwn ddiolch yn arbennig i Dylan Iorwerth yn Golwg am ei gefnogaeth a'i  gymorth yn sefydlu a datblygu'r fenter a staff gweinyddol y Coleg am eu cymorth hwythau. Braf rhannu’r wobr hefyd gyda’r llawlyfr Daearyddiaeth; adnodd arall heb ei ail i fyfyrwyr Cymru.”

Ychwanegodd Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth:

“Hoffwn i longyfarch yn wresog yr holl enillwyr o Aberystwyth. Mae’r llwyddiant ysgubol hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad ar draws y sefydliad i ddarparu rhagoriaeth mewn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.  Mae e hefyd yn dangos ymroddiad a chreadigrwydd ein staff, sy’n fendigedig i’w weld.”

Y beirniaid eleni oedd Meri Huws, Lleucu Myrddin a Denise Williams a chadeiriwyd y panel gan Dr Ioan Matthews, prif weithredwr y Coleg Cymraeg. Meddai Dr Ioan Matthews:

“Unwaith eto eleni derbyniwyd llu o enwebiadau ar draws sefydliadau ac mewn ystod o feysydd. Roedd safon yr enwebiadau i gyd yn uchel dros ben ac o ganlyniad roedd hi’n dalcen caled i’r panel lunio’r rhestr fer heb sôn am ddewis enillwyr.

“Mae’r sector addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn hynod o ffodus o gael cynifer o ddarlithwyr talentog ac ymroddgar sy’n mynd yn bell tu hwnt i’r disgwyl i gynnig y profiadau gorau i’w myfyrwyr.  Mae’r gwobrau yma yn ffordd i’r gymuned ac i’r Coleg gydnabod eu cyfraniad pwysig.”

Mae’r adnoddau a ddaeth i’r rhestr fer yn y categori Adnodd Cyfrwng Cymraeg ar gael ar Borth Adnoddau’r Coleg a cheir y manylion llawn am y gwobrau islaw ac ar wefan y Coleg.