Platfform newydd i helpu i warchod ac adfer mangrofau dan fygythiad

Llun o’r awyr o diroedd mangrof yng ngogledd Awstralia.

Llun o’r awyr o diroedd mangrof yng ngogledd Awstralia.

28 Gorffennaf 2020

Mae platfform rhyngweithiol newydd i helpu i warchod ac adfer fforestydd mangrof y byd wedi cael ei lansio gan dîm o wyddonwyr rhyngwladol yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth.

Mae Global Mangrove Watch yn blatfform digidol ar gyfer mapio a monitro fforestydd mangrof, sydd wedi bod yn gynefin pwysig i fyd natur ac i bobl ers canrifoedd.

Cafodd ei lansio ddydd Llun 27 Gorffennaf 2020 fel rhan o wythnos o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Mangrof y Byd ac fe’i datblygwyd gan y Gynghrair Mangrofau Rhyngwladol sy’n dwyn ynghyd sefydliadau sy'n gweithio tuag at sicrhau bod tiroedd mangrof yn cynyddu 20% yn fyd-eang erbyn 2030.

Mae'r platfform yn cynnig data synhwyro o bell a dulliau ar gyfer monitro mangrofau, gan roi mynediad agored at wybodaeth amser real am y newidiadau i fangrofau ar draws y byd, yn ogystal ag egluro pam eu bod yn werthfawr.

Mae mangrofau llewyrchus yn allweddol i iechyd natur ac i weithredu effeithiol ar faterion hinsawdd, ond rhwng 1996-206, bu gostyngiad o dros 6,000 km² yn eu tiroedd.

Gall y gwlypdiroedd coediog yma oddef halen ac fe’u ceir mewn parthau arfordirol dros  118 o wledydd yn y trofannau, yr is-drofannau a rhanbarthau tymherus, lle maen nhw’n darparu cynefin pwysig i filoedd o rywogaethau fflora a ffawna ynghyd ag ystod o  adnoddau ar gyfer poblogaethau lleol, yn cynnwys bwyd a phren.

Mae mangrofau hefyd yn helpu i ddiogelu arfordiroedd rhag difrod stormydd ac yn storio symiau sylweddol o garbon.

Dywedodd yr Athro Richard Lucas, sy'n dal Cadair Ymchwil Sêr Cymru o fewn Grŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth: "Mae prosiect Global Mangrove Watch wedi bod yn uchelgais ers dros ddegawd ac mae’n deillio o gydweithrediad parhaus gydag Asiantaeth Archwilio Awyrofod Japan drwy eu Menter Kyoto a Charbon, ynghyd â chefnogaeth gan fudiad Wetlands International. Mae’r Grŵp Ymchwil Arsylwi’r Ddaear a Dynameg Ecosystemau ym Mhrifysgol Aberystwyth a soloEO yn Japan wedi chwarae rhan ganolog yn y gwaith o ddatblygu a gweithredu'r gwaith o fapio a chanfod newid gan ddefnyddio cyfuniadau o ddata lloeren radar ac optegol a gasglwyd dros gyfnod o dri degawd, gan ddechrau yn y 1990au. Rydym yn gobeithio y bydd y platform yn hysbysu pobl nid yn unig ar lefel leol ond hefyd yn fyd-eang o gyflwr mangrofau heddiw ac yn y gorffennol ac, yn bwysicach, yn cyfrannu tuag at eu cadwraeth a'u defnydd cynaliadwy yn yr hirdymor. 

Dywedodd Dr Pete Bunting, sy’n Darllenydd mewn Synhwyro o Bell yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Aberystwyth: "Drwy ddefnyddio dulliau synhwyro o bell a data eraill, gallwn ddarparu gwybodaeth gywir, gyfredol ar fangrofau ac unrhyw newidiadau i’w maint a hynny i reolwyr parciau ac arfordiroedd, cadwraethwyr, llunwyr polisïau ac ymarferwyr. Gall y wybodaeth yma eu helpu i nodi achosion lleol lle mae tirwedd mangrof yn cael ei golli a monitro cynnydd o ran gwaith adfer yn ogystal ag ymateb i fygythiadau fel logio anghyfreithlon. Bydd platfform Global Mangrove Watch hefyd yn helpu i sicrhau bod mangrofau yn ganolog i gynlluniau a pholisïau lliniaru'r hinsawdd, addasu a datblygu cynaliadwy."

Mae’r sefydliadau sy’n cydweithio ar brosiect Global Mangrove Watch yn cynnwys Prifysgol Aberystwyth, soloEO, NASA, JAXA, UNEP-WCMC a phartneriaid eraill, gyda chefnogaeth gan yr Oak Foundation, DOB Ecology and the Dutch Postcode Lottery, The Nature Conservancy a Wetlands International.