Byw a Gweithio yn Aberystwyth

Cymuned heb ei Hail

Mae’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear yn gartref i gymuned heb ei hail. Mae’r diwylliant ymchwil rhagorol a’r awyrgylch ddeallusol fywiog yn cael eu cefnogi gan y safon byw uchel a gynigir gan yr ardal o gwmpas.

Mae lleoliad Prifysgol Aberystwyth gyda’r harddaf ym Mhrydain. Mae’r Brifysgol ar Riw Penglais, yn edrych i lawr dros y dref a Bae Ceredigion, mewn ardal o harddwch naturiol digymar, ac mae’n rhan o gymuned fywiog, gyfeillgar a diogel sy’n cyfuno nodweddion traddodiadol tref glan môr gyda nodweddion gorau tref prifysgol. Mae Aberystwyth hefyd yn dref naturiol werdd gan fod agosatrwydd y dref a’r brifysgol yn golygu nad oes angen defnyddio ceir; mae popeth o fewn taith gerdded neu daith feic fer iawn.

Cyfleusterau Chwaraeon

Mae gan Brifysgol Aberystwyth ystod eang o gyfleusterau ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon a ffitrwydd. Lleolir y Ganolfan Chwaraeon ynghanol y campws, dafliad carreg o Adeilad Llandinam, ac mae ynddi’r offer campfa diweddaraf a nifer helaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd amrywiol. O’i chwmpas mae 48 acer o gaeau naturiol, cyrtiau badminton, pel fasged a sboncen, a maes chwarae ar gyfer pob tywydd. Yn y dref, mae Canolfan Hamdden Plascrug hefyd yn cynnig ystod o gyfleusterau chwarae, y tu fewn a’r tu allan, gan gynnwys pwll nofio, cyrtiau sboncen, campfa a maes chwarae tu allan.

Hamdden ac Adloniant

Ceir yn Aberystwyth draethau, adfeilion castell, ac ardal cefn gwlad gyda’r gorau yn y DG. Mae’r arfordir, a’i thraethau hardd a’i chlogwyni rhyfeddol yn denu cerddwyr, syrffwyr a theuluoedd sy’n mwynhau’r tirlun. Ac mae Mynyddoedd y Cambria a Pharc Cenedlaethol Eryri yn cynnig golygfeydd a theithiau cerdded anhygoel, a’r cyfan ar ein stepen drws.

Mae gan Aberystwyth hefyd ddigon o ddewis ar gyfer ambell noson o adloniant. Mae’r Ganolfan Gelfyddydau nodedig sydd ar y campws yn ganolfan bwysig i’r gymuned, gyda’i rhaglen amrywiol o ddrama, dawns, a cherddoriaeth yn y sinema 3D, y ddwy theatr, a’r neuadd helaeth. Mae yno hefyd sawl caffi a bar, siop anrhegion a siop lyfrau.

Mae’r deg ar hugain o dafarndai sydd yn y dref yn cynnig gofod perffaith i staff a myfyrwyr barhau sawl trafodaeth a dadl wedi’r seminarau a’r digwyddiadau eraill. Gellir cael prydau bwyd ardderchog mewn nifer ohonynt, ac mae digon o gyfle i brofi’r cwrw a’r gwirodydd lleol a chlywed cerddoriaeth byw gan rai o grwpiau gorau’r ardal!