Neges gan y GeogSoc...

 

Helo! Ni yw’r GeogSoc – un o gymdeithasau mwyaf a gorau Prifysgol Aberystwyth!

Rydym ni’n cynnig cyswllt pwysig iawn rhwng yr adran a’r myfyrwyr, yn helpu i greu awyrgylch cyfeillgar ar gyfer eich astudiaethau. Rydym yn cyfarfod bob dydd Mawrth er mwyn cymdeithasu – yn ymweld â nifer o dafarndai’r dre – yn ogystal â threfnu tripiau lleol ac ar hyd a lled Cymru, a chynnig tomen o gymorth addysgol. Does dim ots beth yw’ch cwrs, rydym am eich croesawu â breichiau agored!