Cefnogi ein Myfyrwyr


Tiwtoriaid Academaidd a Phersonol

Caiff Tiwtor Academaidd ei benodi i bob myfyriwr er mwyn trafod ac arwain eu cynnydd yn ystod eu hastudiaethau. Mae tiwtorialau academaidd yn gyfle i chi ddysgu mewn grwpiau bach, ac yn eich cyflwyno i themâu a syniadau allweddol yn eich disgyblaeth, gan eich galluogi i’w datblygu ymhellach a derbyn adborth ar eich gwaith. Bydd hyn yn rhoi modd i chi werthuso ac adfyfyrio ar eich perfformiad a sut y gellid ei wella – a hynny gyda chefnogaeth y tiwtor. Fel rhan o'r rhaglen diwtorial, byddwch yn cymryd rhan yn y rhaglen Arolwg o Gynnydd Academaidd a Phersonol (AGAPh) a fydd yn gofyn i chi adfyfyrio ar eich dysgu ac ystyried eich gyrfa yn y dyfodol. Mae ym Mhrifysgol Aberystwyth Wasanaeth Gyrfaoedd hefyd sydd yn cynnig cefnogaeth a chyrsiau drwy gydol y flwyddyn academaidd er mwyn rhoi’r cyfle gorau i fyfyrwyr ddod o hyd i swydd yn ystod ac wedi’r cyfnod yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Er mwyn cefnogi’r Rhaglen Diwtorial, caiff pob myfyriwr israddedig Diwtor Personol yn y flwyddyn gyntaf. Yn ar ail a’r drydedd flwyddyn bydd eich Tiwtor Academaidd yn gweithredu fel Tiwtor Personol yn ogystal.

Cydlynwyr ac Arweinwyr Cynlluniau Gradd

Y Cydlynwyr a’r Arweinwyr Cynlluniau Gradd yw’r darlithwyr sy’n arolygu ac yn cymryd cyfrifoldeb am gydlynu, trefnu a dysgu’r rhaglen academaidd ar ran Pennaeth yr Adran.

Cydlynwyr Modiwl

Mae gan bob modiwl Gydlynydd Modiwl. Rhain yw’r darlithwyr sy’n gyfrifol am y modiwl unigol sy’n cael eu cynnig, ac atyn nhw y dylech fynd gyntaf os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwrs penodol.

Cefnogaeth Bersonol


I’r rhan fwyaf o fyfyrwyr, mae symud i ffwrdd o adre am y tro cyntaf yn gallu bod yn brofiad cyffrous ond digon anodd ar yr un pryd. Mae Aberystwyth yn falch o ystyried ei hun fel prifysgol hapus iawn, gyda'r mwyafrif o'n myfyrwyr yn cael amser didrafferth yma. Serch hynny mae strwythurau o fewn yr Adran a'r Brifysgol sy'n cefnogi myfyrwyr os yw problemau'n codi.

Mae’r Adran yn darparu cymorth personol ar faterion lles trwy Arweinwyr Cynlluniau Gradd a Thiwtoriaid Personol. Caiff Arweinwyr Cynlluniau Gradd eu penodi i bob cynllun gradd i ddelio â materion bugeiliol, lles, presenoldeb, dyddiadau cyflwyno aseiniadau, a materion asesu ar gyfer eu myfyrwyr.

Yn Aberystwyth rydym yn credu ei bod hi'n bwysig trin pobl fel unigolion ac annog eu dysgu er mwyn gwneud y mwyaf o ddatblygiad personol. Trwy gydol y tair blynedd yn astudio gradd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, mae myfyrwyr yn cwrdd yn rheolaidd mewn grwpiau bach (tua phump o fyfyrwyr) gyda thiwtor academaidd er mwyn trafod materion allweddol eu cynllun gradd dewisedig, datblygu sgiliau astudio ac ymwybyddiaeth o yrfaoedd, ac ehangu ar bynciau darlithoedd. Mae gwaith grŵp bach ar ddechrau'r flwyddyn gyntaf yn helpu meithrin cyfeillgarwch ymhlith myfyrwyr, cyfeillgarwch sy’n aml yn para oes.

O fewn y Brifysgol, ac wedi'i lleoli yng nghanol y campws, mae'r Ganolfan Croesawu Myfyrwyr yn darparu siop un stop ar gyfer ymholiadau cyffredinol a nifer o wasanaethau arbenigol: cyngor ariannol, cymorth dysgu, cyngor meddygol, cyngor ar anabledd, cyngor i rieni a materion cyffredinol yn ymwneud a'ch datblygiad a lles personol. Mae gan Aberystwyth hefyd Gynllun Mentora Signpost – cynllun sy’n trefnu cefnogaeth gan gyfoedion er mwyn helpu myfyrwyr i ddod i arfer â bywyd prifysgol.