Rhodri Aled Evans BA (Aberystwyth), MA (Aberystwyth)

 Rhodri Aled Evans

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Rhodri Evans yn fyfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear. Symudodd i’r adran wedi graddio a B.A. yn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a M.A. yn Hanes Cymru, ill dau ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar fudiadau ‘radical’ ail hanner yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. Mae’ ymchwil yn  edrych ar gyfranogiad sifil ar gyrion cymdeithas a dadansoddi pam mae rhai mathau o ddulliau ymgysylltu â dinasyddion yn fwy derbyniol gan gymdeithas nag eraill. Fel rhan o'r prosiect cydweithir yn a'r Archif Wleidyddol Gymreig yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
 

Ymchwil

Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys:

  • Hanes cenedlaetholdeb Cymraeg yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif.
  • Gweithgarwch grwpiau cenedlaetholgar yng Nghymru.