Mr Rhys Hale

Mr Rhys Hale

Rheolwr Prosiect

Ymchwil, Busnes ac Arloesi

Manylion Cyswllt

Proffil

Dyddiad ymuno a swydd flaenorol

Ymunodd Rhys ag YBA ym mis Mehefin 2022, ar ôl gweithio i weithrediad Future Foods yn IBERS ers 2020.

Prif gyfrifoldebau yn y swydd flaenorol

Yn Future Foods bu Rhys yn gweithio fel Gweinyddwr Prosiect gyda chyfrifoldebau rhan amser fel Rheolwr Prosiect Technegol ers 2021. Ef oedd yn gyfrifol am oruchwylio'r holl ddogfennaeth yn ymwneud â Dangosyddion Prosiect a darpariaeth Cymorth Gwladwriaethol ar y prosiect.

Addysg a phrofiad gwaith

Cwblhaodd Rhys BA (Anrh) Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol Sheffield Hallam yn 2007, a chyn ymuno â’r Brifysgol yn 2019 roedd yn berchen ar ac yn rhedeg cwmni sling babanod a dillad gyda’i bartner ers 2013.

Profiad a gwybodaeth

Fel rheolwr swyddfa yn y busnes hwn, cafodd brofiad o sicrhau bod y cwmni'n cynnal ei sefydlogrwydd ariannol ac yn gweithredu'n esmwyth gyda'i amserlen gweithgynhyrchu trwy gydol y flwyddyn.

Prif gyfrifoldebau o fewn YBA

Yn YBA, mae Rhys wedi ymuno â’r Golofn Rheoli Prosiectau i fonitro prosiectau ymchwil. Mae’n darparu gwasanaeth ar gyfer y prosiectau ymchwil hyn trwy greu dogfennaeth cau prosiectau a chynorthwyo prosiectau yn y broses gau, yn ogystal ag adolygu eu cryfderau a’u gwendidau er mwyn gwella gwasanaethau’r Brifysgol.

Rhan fwyaf pleserus o weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae Rhys yn mwynhau chwarae rhan mewn sicrhau gallu’r Brifysgol i redeg gweithrediadau ymchwil cyffrous a llwyddiannus, a gweithio o fewn tref brydferth Aberystwyth.