Gwahodd Tiwtor Dysgu Gydol Oes i draddodi darlith flynyddol y Gymdeithas Hanesyddol

Gwahoddwyd yr Athro Nicole Crossley-Holland, sy’n diwtor dysgu gydol oes ym Mhrifysgol Aberystwyth, i draddodi darlith flynyddol 2011 y Sefydliad Ymchwil Hanes, a drefnir gan y Gymdeithas Hanesyddol. Caiff y ddarlith, ‘Food in Medieval Russia from AD 754 to 1480, including the significance of Christmas in Russia’ ei chynnal yn y Senate House, Prifysgol Llundain, ar 10 Rhagfyr.

Mae Nicole yn diwtor dysgu gydol oes arbennig o boblogaidd sy’n dysgu nifer o gyrsiau am hanes eithriadol ddiddorol Rwsia yn ardal Caerfyrddin.

Ganwyd Nicole, fel y gelwir hi gan ei myfyrwyr, ym Mharis i rieni Ffrengig a Rwsiaidd, ac fe astudiodd yn y Sorbonne lle enillodd radd Doctorat-es Lettres. Dros yrfa o dros 56 o flynyddoedd yn dysgu, mae Nicole wedi darlithio yn y Sorbonne, Prifysgolion British Columbia a Chaliffornia ac, yn Lloegr, ym Mhrifysgolion Leeds, Llundain a Chaergrawnt.

Yn hanesydd y canoloesoedd, yn aelod o’r IHR, yn Rhoddwr i’r Gronfa Flynyddol ac yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Cymru, mae Nicole hefyd yn awdur nifer o lyfrau, yn cynnwys Living and Dining In Medieval Paris : The Household of a Fourteenth-Century Knight.

I gael rhagor o fanylion am gyrsiau Nicole ar hanes Rwsia yn ogystal â rhaglen dysgu gydol oes Prifysgol Aberystwyth  cysylltwch â dysgu@aber.ac.uk   01970 621580 neu ewch i’r wefan: http://www.aber.ac.uk/en/sell/