Darlith Tad Vladimir Lysak

Tad Vladimir Lysak Y mae’r Tad Vladimir Lysak, a raddiodd o Brifysgol Alberta a Choleg Diwynyddol Uniongred St Vladimir, yn fynach-offeiriad yn yr Eglwys Uniongred ac yn eiconograffydd enwog. Ar wahân i’w ddyletswyddau bugeiliol a phaentio eiconau, y mae’n dysgu yn y ddau faes. Ymhlith ei apwyntiadau rydym yn nodi cyrsiau i’r Academi Leyg AcademValamo yn y Ffindir; Coleg Campion ym Mhrifysgol Regina, a Sefydliad St Arseny yn Winnipeg – y ddau sefydliad yng Nghanada; a’n Hysgol Addysg ni ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi elwa o ddarlith a 3 darlith-arddangosfa ers 2003. Rhoddir y rhain i gyd-daro â’r cyrsiau ar Hanes Rwsiaidd a drefnir gan yr Ysgolanes RwsiauddHan.

 Bydd y Tad Vladimir yn rhoi darlith i’r Ysgol Addysg a Dysgu gydol Oes ar 29 Mawrth yn LLechryd o’r enw:

Peter the Great: his reforms and their effect on iconography

Mae mynediad i’r ddarlith am ddim. Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch â’r Brifysgol i gael manylion a gwybodaeth oddi wrth xenia@gospodi.eclipse.co.uk