Mr Gwenallt Ifan

Mr Gwenallt Ifan

University Link Tutor- Chemistry / Biology

Ysgol Addysg

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae gan Gwenallt Llwyd Ifan brofiad helaeth ym maes addysg uwchradd a chynradd. Graddiodd mewn Macromolecular Biology, cangen o faes biocemeg, cyn ennill cymhwyster Tystysgrif Addysg i Raddedigion fel athro Bioleg, Cemeg a Gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n athro gwyddoniaeth a Phennaeth Bioleg yn Ysgol Maesgarmon, Y Wyddgrug, ac yn Bennaeth Bioleg â chyfrifoldebau cyfadran yn Ysgol David Hughes, Porthaethwy.

Penodwyd ef yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth yn 2000. Enillodd gymhwyster Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth yn 2003 a oedd yn cynnwys prosiect ymchwil ar ddatblygiad dulliau asesu a mentora disgyblion oed uwchradd. Yn 2003, penodwyd ef yn Bennaeth Ysgol Uwchradd Tregaron a thra yno bu’n gweithio ar broject sefydlu ysgol ardal a daeth yn Bennaeth ar ffederasiwn o ddwy ysgol gynradd ac ysgol uwchradd yn yr ardal. Yn 2009, daeth yn Bennaeth Ysgol Gyfun Gymunedol Penweddig a bu yno tan ei ymddeoliad o’r swydd yn 2018.

Mae’n fardd cadeiriog gan ennill dwy gadair genedlaethol a chyhoeddwyd ei waith mewn nifer o gyfrolau o farddoniaeth. Cyhoeddodd gasgliad o’i waith dan y teitl DNA yn 2021.

Mae ei ddiddordeb ym maes addysg yn parhau yn rhinwedd ei swydd fel Tiwtor Bioleg a Chemeg ar y cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’n cynnal ymchwil tuag at gymhwyster DProf i’r defnydd o farddoniaeth i ymgysylltu pobl gyda gwyddoniaeth drwy addysg a thu hwnt.