Athena Swan

Beth yw Athena Swan?

Mae Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ar draws y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb o ran rhywedd mewn addysg uwch (AU) ac ymchwil. Sefydlwyd y Siarter yn 2005 i annog a chydnabod ymrwymiad i ddatblygu gyrfaoedd menywod mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM), a chaiff ei ddefnyddio bellach ar draws y byd i fynd i’r afael â chydraddoldeb o ran rhywedd yn fwy eang, ac nid dim ond y rhwystrau dilyniant sy’n effeithio ar fenywod.

Pam fod hyn yn bwysig?

  • helpu sefydliadau i gyflawni eu hamcanion cydraddoldeb o ran rhywedd
  • cynorthwyo sefydliadau i fodloni gofynion deddfwriaeth cydraddoldeb, yn ogystal â gofynion a disgwyliadau rhai cyllidwyr a chynghorau ymchwil
  • defnyddio fframwaith hunanasesu wedi’i thargedu sy’n cynorthwyo ymgeiswyr i nodi meysydd ar gyfer gweithredu cadarnhaol yn ogystal â nodi a rhannu arfer gorau
  • cefnogi hyrwyddo arferion gwaith cynhwysol a all wella cyfradd cadw academyddion a staff proffesiynol ac ategol gwerthfawr, a dangos ymrwymiad eich sefydliad i amgylchedd gwaith cyfiawn

Sut mae hyn yn effeithio ar Brifysgol Aberystwyth?

Mae siarter Athena Swan Advance HE yn cwmpasu pob hunaniaeth rhywedd mewn:

  • swyddi academaidd mewn STEMM ac AHSSBL
  • swyddi staff proffesiynol, rheoli ac ategol

mewn perthynas â’u:

  • cynrychiolaeth
  • dilyniant myfyrwyr i’r byd academaidd
  • taith drwy gerrig milltir gyrfaol
  • amgylchedd gwaith i’r holl staff

Y Tîm Hunanasesu:

I baratoi ar gyfer ein cais yn 2023, mae’r Tîm Hunanasesu wedi bod yn cyfarfod yn rheolaidd ers mis Mai 2021, yn gyntaf fel grŵp ‘gweithredu’ ac yn ddiweddarach fel grŵp adolygu a Chynllun Gweithredu.

 

Enw Swydd/Adran E-bost
Al Rhodes Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth, Undeb y Myfyrwyr alr80
Andrew Thomas Pennaeth Adran, Ysgol Fusnes ant42
Anwen Jones  Dirprwy Is-Ganghellor, Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol  aej
Anthonia Ijeoma Onyeahialam Gwyddonydd Arsyllu’r Ddaear a GIS – Prosiect GEOM, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear  aio
Christine Zarges Uwch-ddarlithydd, Adran Cyfrifiadureg  chz8
Delphine Demelas Cynorthwyydd Ymchwil Ôl-ddoethurol – Geiriadur Eingl-Normanaidd, Adran Ieithoedd Modern  ded22
Elin Mabbutt Rheolwr Prosiect Cynhyrchu Cyfryngau Uwch, Adran Cyfrifiadureg  emm32
Gabor Gelleri Uwch-ddarlithydd, Ieithoedd Modern gag9
James Woolley Arweinydd Thema E-ddysgu, Cyfoethogi ac Ymgysylltu, Gwasanaethau Gwybodaeth  jbw
Jessica Adams Cymrawd Ymchwil, IBERS jaa
Lucy Trotter Darlithydd Addysg, Ysgol Addysg lut22
Megan Talbot Darlithydd Cyswllt, Adran y Gyfraith a Throseddeg met32
Mike Morris Rheolwr Datblygu Busnes, IBERS tem
Rachel Cross Uwch-ddarlithydd, Adran Ffiseg rac21
Dylan Jones Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant dej20
Sarah Dalesman Darlithydd Bioleg Dŵr Croyw, IBERS sad31

 

Cysylltiadau Athena Swan:

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth ar waith y Brifysgol ar gyfer Nod Siarter Athena Swan cysylltwch â

  • Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant dej20@aber.ac.uk